Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 21 Mawrth 2018, amlinellais gynigion ar gyfer sicrhau cyfeiriad strategol gwaith ieuenctid yng Nghymru, fel bod ein pobl ifanc yn gallu elwa ar wasanaethau hanfodol sy'n parhau i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Bydd yr ymdrechion hyn, a fydd wedi'u meithrin ar y cyd â phobl ifanc a'r sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a statudol, yn arwain at ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd.

Fel rhan o'r cynlluniau hyn, cyhoeddais fy mod yn bwriadu sefydlu Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn cynnwys cynrychiolwyr arbenigol o faes gwaith ieuenctid a fyddai'n ein helpu i gadw'n driw i'n gweledigaeth ac i wireddu ein strategaeth.  Ar yr un pryd, cyhoeddais hysbyseb am swydd Cadeirydd y Bwrdd hwn; mae'r broses benodi wedi'i chwblhau a gallaf roi'r newyddion diweddaraf i chi ar y cynnydd a wnaed ynghylch yr ymrwymiad hwn.

Cawsom nifer o geisiadau gan ymgeiswyr o ansawdd uchel ar gyfer y swydd hon, a rhyngddynt roedd ganddynt wybodaeth ac arbenigedd helaeth ynghylch y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru. Ar ôl ystyried lliaws gryfderau'r ymgeiswyr hyn, mae'n bleser o'r mwyaf gennyf gadarnhau fy mod wedi penodi Keith Towler yn Gadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Mae gan Keith frwdfrydedd dros waith ieuenctid a chyfoeth o wybodaeth. Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o Keith eisoes, oherwydd ei swydd flaenorol fel Comisiynydd Plant Cymru. Mae hefyd yn aelod presennol o'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gwrdd â Keith yr wythnos ddiwethaf ac i bwysleisio, er bod hon yn agenda heriol, fod y Bwrdd yn gyfle i feddwl yn greadigol. Fel y Cadeirydd, bydd gofyn iddo ymgyfarwyddo â sgiliau a phrofiadau pobl ifanc a'r sector a manteisio arnynt wrth gyflwyno strategaeth hirdymor i Gymru. Rydw i wedi dweud wrth Keith am weithio ochr yn ochr â fy swyddogion i benodi aelodau i'r Bwrdd, gan sicrhau ei fod yn cynrychioli natur amrywiol y sector gwaith ieuenctid.

Fel y gŵyr llawer ohonoch, roedd hi'n Wythnos Gwaith Ieuenctid yr wythnos ddiwethaf, a chynhaliwyd gweithgareddau ledled Cymru i ddathlu'r gwaith ieuenctid gorau yng Nghymru ac i roi gwybod i bobl ifanc beth sydd ar gael yn eu hardal nhw.  Fel rhan o'r dathliadau hyn, roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad gwaith ieuenctid yn adeilad y Pierhead ar 26 Mehefin, lle y dangosodd amrywiaeth o bobl ifanc a sefydliadau gwaith ieuenctid deinamig y gwaith gwych, ac arloesol yn aml, sy'n digwydd ar draws Cymru.

Daeth Wythnos Gwaith Ieuenctid i ben yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin lle y cynhaliwyd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Roedd yn noswaith ardderchog a oedd yn cydnabod effaith ac ansawdd gwaith ieuenctid yng Nghymru. Roeddwn yn falch o gael llongyfarch enillwyr y gwobrau a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Cefais gyfle hefyd i gadarnhau bod Keith Towler wedi'i benodi'n Gadeirydd y Bwrdd. Rydw i wedi amgáu rhestr o enillwyr eleni ar ddiwedd y datganiad hwn ac yn eich gwahodd i ymuno â mi wrth eu llongyfarch ar eu llwyddiant. Rhyngddynt maent yn dangos yr amrywiaeth o wasanaethau a sectorau y mae gwaith ieuenctid ynghlwm â nhw, gan dynnu sylw at y rhan y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae, a'r effaith y mae'n ei chael wrth weithredu llawer o'n polisïau ehangach a chyfrannu at gyflawni ein blaenoriaethau.

Yn olaf, mae'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn prysur fynd rhagddo. Mae Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid  yn cymryd rhan lawn yn y dasg o'i datblygu a bydd yn parhau i ymgynghori â rhanddeiliaid a phobl ifanc fel rhan o'r broses hon. Byddaf yn ystyried sut y bydd y grŵp pwysig hwn yn parhau i gyflawni ei swyddogaeth ac ar yr un pryd yn cefnogi ac yn ategu gwaith y Bwrdd pan fydd wedi'i sefydlu'n llwyr.  

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid - yr Enillwyr

Hyrwyddo iechyd, lles a ffordd o fyw egnïol  Mind Matters oedd y prosiect buddugol. Pobl ifanc sy'n arwain y prosiect hwn i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc sy'n byw yn Nhorfaen, gan weithio gyda CAMHS, Iechyd Meddwl Sylfaenol  ac Iechyd Cyhoeddus Cymru

Hyrwyddo treftadaeth a diwylliannau yng Nghymru a thu hwnt Urdd Gobaith Cymru oedd yr enillydd yn y categori hwn am ei brosiect 'Patagonia'. Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc deithio i Batagonia i gynnal gweithdai a chyngherddau i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Ymgysylltu ag addysg ffurfiol, hyfforddiant a chyflogaeth Enillydd y categori oedd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd gyda'i brosiect Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Roedd hwn yn ystyried y rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio oddi wrth addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac yn eu helpu i oresgyn y rhwystrau hynny.

Hyrwyddo’r celfyddydau, sgiliau’n ymwneud â’r cyfryngau a sgiliau digidol Media Academy Cardiff a enillodd y categori hwn am ei waith arloesol gyda phobl ifanc i wneud y ffilm 'Labels', sy'n dangos sut y mae pobl sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol yn gallu dioddef stigma. Rhoddodd hyn gyfle i bobl ifanc ddefnyddio'r cyfryngau digidol i lywio polisi, i ddatblygu eu sgiliau ac i feithrin hyder.

Hyrwyddo hawliau pobl ifanc Dangosodd y prosiect buddugol sut y mae Cyngor Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dylanwadu ar benderfyniadau sy'n cael effaith ar fywydau aelodau'r cyngor ac ar eu cymunedau. Roedd y prosiect yn dangos eu bod yn gallu dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn yr ardal a'u bod yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros broblemau sy'n effeithio arnynt.

Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth   Y prosiect buddugol yn y categori hwn oedd Clwb Ieuenctid Derwen. Mae'r prosiect hwn yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau'n cael yr un cyfleoedd â phobl ifanc eraill ac mae'n eu grymuso i feithrin hyder i gymryd rhan mewn mwy o grwpiau amrywiol.

Gweithiwr Ieuenctid  Eithriadol. Enillydd y wobr hon i unigolyn oedd Louise Coombs. Roedd ei henwebiad yn disgrifio ei brwdfrydedd dros ei gwaith, bod pobl ifanc yn ei pharchu ac yn ymddiried ynddi, a'i hymroddiad i'w swydd, er enghraifft drwy gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sydd yn y ddalfa fel eu bod yn gwybod bod ganddynt rywun cyfeillgar i siarad â nhw ar ôl cael eu rhyddhau.

Gwirfoddolwr eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid Enillodd Tony Humphries y wobr hon am ei ymroddiad i'r YMCA yn Abertawe a'i waith caled yno yn cefnogi pobl ifanc mewn grŵp LBGTQ+ i fynegi eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. Mae wedi cynnal gweithdai'n ymdrin ag amrywiaeth o broblemau, sy'n ennyn diddordeb, yn hwyl ac wedi'u cynllunio'n dda.

Gwneud Gwahaniaeth. Panel o bobl ifanc yw'r beirniaid ar gyfer y wobr hon a dewiswyd Rachel Wright ganddynt. Mae Rachel wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc anodd eu cyrraedd sy'n ymwneud â gweithgarwch gwrthgymdeithasol neu droseddol.  Mae ei gwaith dwys gyda'r bobl ifanc hyn wedi eu helpu nhw i ddeall sur i reoli eu hymddygiad yn well ac i gadw allan o helbul.