Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch y broses o benodi Comisiynydd Plant nesaf Cymru.

Mae tymor y Comisiynydd Plant presennol yn dod i ben ar 28 Chwefror 2015 ac fe ddechreuodd y broses o benodi ei olynydd  ar 23 Ebrill a gafodd ei oedi o ganlyniad i’r ad-drefnu diweddar. Fel arfer ar gyfer penodiadau cyhoeddus wedi’u rheoleiddio, pan fo’r Gweinidog yn newid, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, mae Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus wedi cadarnhau y byddai angen ailddechrau’r broses benodi. Er nad yw’r Comisiynydd Plant yn benodiad cyhoeddus wedi’i reoleiddio, rydym wedi dilyn yr un egwyddorion â phenodiad wedi’i reoleiddio.

Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu dilyn yr egwyddorion penodiadau cyhoeddus, ac ailgychwyn y broses benodi o’r dechrau. Gan gofio pwysigrwydd swydd y Comisiynydd Plant a’m swyddogaeth arweiniol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros blant, bydd hefyd yn rhoi cyfle i mi fod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

Wrth ddod i benderfyniad rwyf wedi, wrth gwrs, ystyried yr ymgeiswyr oedd eisoes yn rhan o’r broses benodi bresennol ac effaith hyn arnynt. Mae fy swyddogion wedi cysylltu â’r ymgeiswyr i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad, ac i ddiolch iddynt am eu hymgeisyddiaeth a'u hamynedd tra wyf wedi ystyried y ffordd ymlaen.

Rwy’n bwriadu parhau i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y broses ddethol drwy banel trawsbleidiol, yn ogystal â phanel pobl ifanc yn y broses gan y bydd y Comisiynydd yn eu cynrychioli.