Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Pan gefais fy mhenodi’n Brif Weinidog Cymru a chyhoeddi Cod y Gweinidogion, dywedais y dylai pobl Cymru ddisgwyl i’w llywodraeth gynnal y safonau uchaf o fywyd cyhoeddus. Dyma gyfrifoldeb sydd y tu hwnt i bleidiau neu gysylltiadau. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y llywodraeth hon yn gweithredu mewn modd gonest, tryloyw ac atebol, wedi’i arwain gan yr egwyddorion a nodir yng Nghod y Gweinidogion.
Yn ganolog i’r newidiadau a wnes i i God y Gweinidogion oedd cyflwyno Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol. Bydd y Cynghorydd Annibynnol yn rhoi cyngor a chymorth diduedd ac yn cynnal ymchwiliadau pan fo angen i sicrhau bod y safonau uchel hyn yn cael eu cynnal. Bydd hefyd yn rhoi cyngor i gyn-weinidogion ar geisiadau o dan y rheolau penodiadau busnes, rôl a ymgymerwyd gynt gan y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi penodi Melissa McCullough i rôl y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol. Mae gan Melissa brofiad helaeth mewn moeseg a safonau proffesiynol yn y sector cyhoeddus. Mae ei phrofiad aruthrol yn sgil gwasanaethu fel Comisiynydd Safonau i sawl deddfwrfa yn y DU ac Ynysoedd y Sianel yn ei gwneud hi’n benodiad rhagorol a gwybodus i Gymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Melissa yn y rôl hanfodol hon er mwyn cynnal y safonau uchaf o uniondeb.
Mae manylion llawn y rôl ar gael yng nghylch gwaith y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol.
