Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddais yn ddiweddar fod Cadeirydd ac aelodau wedi'u penodi ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Bydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru'n rhan allweddol o'r broses newydd ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru, a bydd yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar newidiadau i delerau ac amodau o hyn ymlaen.

Credwn ei bod yn hollbwysig i'r Corff Adolygu gael cymorth ysgrifenyddol annibynnol i gyflawni ei swyddogaethau, ac felly mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi'i benodi i ddarparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Corff.

Rwy'n hyderus bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn gallu darparu'r ystod o wybodaeth, sgiliau a galluoedd sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon, ac rwyf hefyd yn hyderus ynghylch proffesiynoldeb ac annibyniaeth y Cyngor, a fydd yn cael eu cydnabod gan yr holl randdeiliaid allweddol ar draws y sector addysg yng Nghymru.