Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn defnyddio fy mhwerau o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i benodi Dyfarnwr Annibynnol i'r awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cafodd y swydd ei llenwi dros dro tan 30 Mehefin 2022. Gan fod y dyddiad hwnnw bellach wedi mynd heibio, byddaf yn dechrau'r broses o benodi unigolyn yn barhaol i rôl Dyfarnwr Annibynnol i'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru tan fis Rhagfyr 2027.

Pan gaiff deiliad swydd ei benodi bydd yn cyflawni'r dyletswyddau penodedig canlynol.

  • Ystyried ceisiadau oddi wrth gyflogeion yr awdurdodau lleol i gael eu heithrio rhag cyfyngiadau gwleidyddol mewn perthynas â'u swyddi.
  • Cyhoeddi cyfarwyddydau, lle bo'n briodol, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys swydd yn eu rhestr o'r swyddi hynny sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol.
  • A rhoi cyngor cyffredinol mewn perthynas â phenderfynu ar gwestiynau ynghylch meini prawf a chymhwyso wrth benderfynu a ddylid rhoi eithriad.