Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod y ddadl yn y Cynulliad ar Hyrwyddo Democratiaeth Leol ar 14 Mai, cyhoeddais fy mod yn bwriadu sefydlu Grŵp Arbenigwyr i ystyried canlyniadau Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol 2012 a materion cysylltiedig.

Rwy'n falch o gyhoeddi fy mod i wedi penodi'r Athro Laura McAllister o Brifysgol Lerpwl i gadeirio'r grŵp, ynghyd â thri aelod arall, sef Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg, Dr Declan Hall, cyn ddarlithydd mewn Llywodraeth Leol a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, a Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Cydraddoldebau yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae bywgraffiadau aelodau'r grŵp i'w gweld isod.

Rwyf wedi gofyn i'r Grŵp ddechrau gweithio ar unwaith ac adrodd i mi erbyn Nadolig. Mae Cylch Gorchwyl y Grŵp fel a ganlyn:

  1. Ystyried a dadansoddi canlyniadau Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol 2012 a gynhaliwyd o dan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
  2. Nodi unrhyw welliannau i fethodoleg a chynnwys yr arolwg cyn yr etholiadau lleol nesaf yn 2017.
  3. Ymchwilio i oblygiadau canlyniadau'r arolwg o ran proffil Llywodraeth Leol yng Nghymru.
  4. Gwrando ar dystiolaeth gan unigolion a grwpiau buddiant ynghylch canlyniadau'r arolwg ac amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol yn fwy cyffredinol.
  5. Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, grwpiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i helpu i lunio polisi ar gyfer gwella amrywiaeth ac felly gwella proffil aelodau etholedig yn dilyn etholiadau lleol 2017.

Bywgraffiadau

Yr Athro Laura McAllister yw Cadeirydd Chwaraeon Cymru ac Athro Llywodraethu yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Lerpwl. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, a graddiodd o Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd PhD mewn gwleidyddiaeth. Roedd Laura yn aelod o'r Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol a adroddodd ym mis Mawrth 2004, a rhoddodd gyngor ar ymchwil i'r Panel Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau'r Cynulliad yn 2008-09. Mae'n Athro Gwadd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Technoleg Queensland, Brisbane, Awstralia, ac Ysgol Weinyddiaeth Genedlaethol Tsieina, Beijing.

Yn gyn chwaraewr a chapten pêl-droed rhyngwladol dros Gymru gyda 24 o gapiau, Laura yw Cadeirydd presennol Chwaraeon Cymru. Mae Laura yn Aelod o Fwrdd UK Sport ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Mae'n noddwr prosiect ar gyfer chwaraeon ym Mhrifysgol Lerpwl, ac mae'n cadeirio Grŵp Strategaeth Chwaraeon Lerpwl. Mae'n Ymddiriedolwr Stonewall UK a'r Sefydliad Materion Cymreig, yn ogystal ag yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru ar gyfer y British Council. Mae gan Laura raddau anrhydedd o Brifysgolion Bangor a Morgannwg.

Joy Kent yw prif weithredwr Chwarae Teg ers mis Ionawr 2013. Cyn ymuno â'r sefydliad, hi oedd cyfarwyddwr sefydlol Cymorth Cymru, corff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl agor i niwed, a chyn hynny roedd ganddi rolau polisi yn Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Joy hefyd yn ymddiriedolwr CGGC ac yn gyfarwyddwr Gwasanaethau CGGC. Cyn ymgartrefu yng Nghymru, bu Joy yn dysgu ac yn rheoli mewn ysgolion iaith preifat yn Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, Brasil a'r Aifft.

Tan yn ddiweddar, roedd Dr Declan Hall yn ddarlithydd Llywodraeth Leol a Gwleidyddol yn y Sefydliad Llywodraeth Leol ym Mhrifysgol Birmingham, a rhwng 2008 a 2012 roedd yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae Dr Hall wedi ymwneud yn agos â chynlluniau cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae bellach yn ymgynghorydd annibynnol ar faterion llywodraeth leol.

Naomi Alleyne yw Cyfarwyddwr Cyfiawnder Cymunedol a Chymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cyn hynny, cafodd ei chyflogi yn yr Uned Cydraddoldebau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gynt, yn gweithio ar gydraddoldeb hiliol a materion lloches a mewnfudo. Mae hi hefyd wedi gweithio i ddau Gyngor Cydraddoldeb Hiliol, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru.