Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi bod Kate Eden wedi’i phenodi yn Gadeirydd Amgueddfa Cymru.

Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Kate wedi cyflawni portffolio o swyddi anweithredol ar draws cyrff allweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y sectorau diwylliannol ac iechyd. Cyn ei gyrfa anweithredol, treuliodd Kate bymtheng mlynedd yn gweithio yn y diwydiant fferyllol a biotechnoleg yn y maes materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r Cadeirydd yn atebol i Weinidogion Cymru am weithrediad Amgueddfa Cymru ac yn gyfrifol am gadeirio a goruchwylio’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Rwy’n falch o gyhoeddi bod Rhys Evans wedi’i benodi’n Is-gadeirydd Amgueddfa Cymru. Rhys yw Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus BBC Cymru Wales ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys cyfathrebu, rheoleiddio a materion cyhoeddus. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ymddiriedolwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rwyf hefyd yn croesawu Owen Hathaway a ymunodd â Bwrdd yr Amgueddfa ym mis Ebrill. Owen yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi, Materion Cyhoeddus a Buddsoddiadau Cymunedol Chwaraeon Cymru.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Dr Carol Bell, y Llywydd Dros Dro a'r Is-lywydd ers 2016 sy'n dod i ddiwedd ei chyfnod ar y Bwrdd. Ymunodd Dr Bell fel Ymddiriedolwr yn 2014 ac ers mis Ionawr 2023 mae wedi ymgymryd â chyfrifoldebau llywyddol ychwanegol, gan ddod â pharhad i'r Bwrdd a dangos ymroddiad ac ymrwymiad i Amgueddfa Cymru.

Hoffwn ddiolch hefyd i Gwyneth Hayward a ymddiswyddodd ym mis Ebrill am ei chyfraniad a'i hymrwymiad yn ystod ei chyfnod fel Ymddiriedolwr.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Pe bai’r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.