Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer gofalwyr di-dâl a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyflawni'r blaenoriaethau hynny. Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys gofalwyr di-dâl a chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a sefydliadau gofalwyr cenedlaethol. Mae gan y grŵp swyddogaeth bwysig o ran ysgogi gwaith ar y cyd i wella cefnogaeth i ofalwyr di-dâl a chodi'r materion sydd bwysicaf i ofalwyr.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiadau newydd i Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Rwyf wedi penodi Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, i rôl y Cadeirydd.

Rwyf wedi gofyn i Alyson Hoskins, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ymgymryd â rôl y Dirprwy Gadeirydd.

Mae Kate ac Alyson yn dod â phrofiad, sgiliau ac ymrwymiad sylweddol i'r rolau hyn, sy'n allweddol i waith parhaus Grŵp Cynghori'r Gweinidog.