Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi dau benodiad i rôl Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Trais Ar Sail Rhywedd, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd y penodiadau hyn am y cyfnod o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2025.

Sefydlwyd rôl Cynghorydd Cenedlaethol o dan ddarpariaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ("y Ddeddf").  Mae'r Cynghorwyr yn gyfrifol am:

  • gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch dilyn trywydd diben y Ddeddf neu fynd i'r afael â materion cysylltiedig[1];
  • rhoi cymorth arall i Weinidogion Cymru wrth iddynt geisio cyflawni diben y Ddeddf neu fynd i'r afael â materion cysylltiedig;
  • ymgymryd ag ymchwil sy'n ymwneud â dilyn trywydd diben y Ddeddf, mynd i'r afael â materion cysylltiedig neu archwilio a yw cam-drin o unrhyw fath yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol gwahanol;
  • cynghori a rhoi cymorth arall, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson ar faterion sy'n ymwneud â mynd ar drywydd diben y Ddeddf neu fynd i'r afael â materion cysylltiedig;
  • llunio adroddiadau ar unrhyw fater sy'n ymwneud â diben y Ddeddf neu fynd i'r afael â materion cysylltiedig.

Y Cynghorwyr a benodwyd yw:

  • Johanna Robinson fel penodiad newydd; a
  • Yasmin Khan fel ail-benodiad.

Rwy'n falch bod Johanna Robinson a Yasmin Khan wedi cytuno i gyflawni'r rôl hon drwy rannu swydd. Mae Johanna a Yasmin yn dod â phrofiad amhrisiadwy a chyfuniad o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth yn y maes hwn ac edrychaf ymlaen at gydweithio â nhw yn ystod eu cyfnod yn y swydd.

Ar hyn o bryd, Johanna Robinson yw Cyfarwyddwr Gweithredol Llamau, elusen flaenllaw yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy'n profi digartrefedd a menywod fel dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Mae ganddi 25 mlynedd a mwy o brofiad o weithio ym maes cyfiawnder cymdeithasol gan gynnwys gyda menywod sy'n cael eu hecsbloetio drwy waith rhyw, gwasanaethau trais rhywiol a menywod sy'n ffoaduriaid.

Yasmin Khan MSc yw sylfaenydd Prosiect Halo, elusen genedlaethol arobryn sy'n cefnogi menywod Du ac o gefndiroedd lleiafrifol sydd wedi dioddef  a goroesi cam-drin domestig, trais rhywiol a niwed cudd gan gynnwys priodas dan orfod, anffurfio organau rhywiol menywod, a cham-drin er anrhydedd. Mae Yasmin wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV am bedair blynedd.

Hoffwn hefyd nodi fy niolch diffuant i Nazir Afzal OBE y bydd ei dymor fel Cynghorydd Cenedlaethol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2022. Rwy'n hynod ddiolchgar am y presenoldeb a'r brwdfrydedd y mae wedi'u rhoi i'r rôl ers 2018 ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i gefnogi'r agenda hon yng Nghymru.

Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os datganwyd unrhyw rai).

Nid yw'r naill unigolyn na'r llall wedi cyflawni unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf nac yn dal unrhyw benodiad Gweinidogol arall.

[1] “Mater cysylltiedig” yw cam-drin y mae'r Cynghorydd Cenedlaethol o'r farn ei fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb rhwng pobl o ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.