Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses gystadleuol iawn, mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi ein Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd yng Nghymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS.  Dyma bedwerydd prif gynghorydd Cymru ar wyddoniaeth.

Mae'r Athro Badyal yn Fferyllydd nodedig, sydd ar hyn o bryd yn dal Cadair ym Mhrifysgol Durham. Cafodd ei ethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol yn 2016 ac mae ganddo enw da yn fyd-eang.

Fe'i cydnabyddir yn arbennig am ei waith ar sut y mae arwynebau solid yn gweithredu a dyddodiad nanohaenau swyddogaethol. Mae gan ei ymchwil cemegol arloesol lawer ac amrywiol gymwysiadau yn y byd go iawn - o gymwysiadau meddygol gwrthfacterol i wneud caenau anhydraidd ar gyfer ffonau clyfar - o gynaeafu niwl i ddarparu dŵr glân mewn gwledydd sy'n datblygu, er mwyn atal baeddu adeiladau ac arwynebau morol. Mae ganddo ddealltwriaeth gref o'r heriau ynghylch trosi darganfyddiadau ymchwil yn gyfleoedd masnachol. Bydd gwybodaeth a chyngor yr Athro Badyal yn cael ei groesawu i gryfhau'r rôl y gall ymchwil a datblygu ei chwarae wrth fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Rwy'n edrych ymlaen at groesawu a gweithio gyda'r Athro Badyal y mae disgwyl iddo ddechrau yn ei swydd yn gynnar eleni.