Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Alex Howells yn Brif Weithredwr cyntaf Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae Prif Weithredwr AaGIC yn cyflawni rôl ganolog a dylanwadol o fewn GIG Cymru a sector cyhoeddus Cymru yn ehangach. Bydd Alex yn cael y cyfle i lywio a datblygu'r corff sengl newydd sy'n gyfrifol am oruchwylio datblygiad strategol y gweithlu iechyd yng Nghymru.
 
Mae Alex yn dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl. Dechreuodd weithio i'r GIG mewn swydd rheoli dan hyfforddiant i raddedigion, ac mae wedi dal nifer o swyddi fel uwch-reolwr ar draws y De yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys naw mlynedd fel Cyfarwyddwr Cynllunio yn Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent. Penodwyd Alex yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pan gafodd hwnnw ei greu yn 2009,  a chafodd ei phenodi'n Brif Swyddog Gweithredu ym mis Ebrill 2012, gyda chyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros ddarparu'r holl wasanaethau clinigol o fewn y Bwrdd Iechyd.  Ymgymerodd Alex â rôl Prif Weithredwr Abertawe Bro Morgannwg ym mis Mawrth 2017.