Neidio i'r prif gynnwy

Llŷr Gruffydd MS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi penodiad Exchange for Change fel y Sefydliad Rheoli Ernesau ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) cynwysyddion diodydd yng Nghymru. Bydd y Cynllun yn cynnwys cynwysyddion diodydd plastig (PET), metel a gwydr o’r diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, yn unol â Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernesau Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026, bydd trefniadau pontio yn weithredol ar gyfer cynwysyddion diodydd gwydr am gyfnod o bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant wedi’u heithrio rhag gofynion labelu a bydd ernes o sero ceiniog yn gymwys iddynt.

Mae’r penodiad yn dilyn proses cadarn i nodi Sefydliad Rheoli Ernesau a fydd yn cefnogi sefydlu’r cynllun ac yn gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i weithredu’r CDE llwyddiannus yng Nghymru. 

Drwy roi blaendal ar gynwysyddion diodydd, sy’n cael ei had-dalu pan fydd y cynwysyddion yn cael eu dychwelyd, bydd y cynllun yn mynd i’r afael â sbwriel tra’n cefnogi’r gwaith o gasglu deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uchel. Bydd y CDE yn helpu i ddarparu sylfaen i ehangu’r defnydd o gynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag Exchange for Change a phartneriaid cyflawni wrth iddynt ddatblygu’r rhwydwaith dychwelyd, y seilwaith casglu a phrosesu, y trefniadau cofrestru cynhyrchwyr, a’r systemau gweithredol wrth baratoi ar gyfer lansio’r cynllun ym mis Hydref 2027.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag Exchange for Change a’n partneriaid cyflawni wrth sefydlu CDE sy’n gweithio i Gymru, ac ochr yn ochr â’r cynlluniau sy’n cael eu gweithredu yng ngwledydd eraill y DU.

Cyhoeddir y Datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhannu datblygiadau diweddaraf ag Aelodau. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar mewn sesiwn lawn o'r Senedd yn ystod tymor yr hydref.