Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Yn dilyn argymhelliad y Prif Weinidog, mae Ei Fawrhydi y Brenin wedi cytuno y bydd Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn cael ei ailbenodi am bum mlynedd arall o 1 Ionawr 2027 pan fydd ei dymor presennol yn gorffen.
Hoffwn longyfarch Owen a diolch iddo am ei ymrwymiad a’i gyfraniad parhaus i'r system addysg yng Nghymru.
Mae Estyn yn allweddol i yrru cynnydd ar fy mlaenoriaethau o wella llythrennedd, rhifedd, llesiant a chynhwysiant mewn addysg. Mae gwaith Estyn i gefnogi ysgolion, drwy eu rhaglen arolygu ac ymweliadau interim, yn darparu fframwaith cenedlaethol cryf, clir a chyson i'n holl ysgolion ac awdurdodau lleol, yn unol â’r blaenoriaethau cenedlaethol hyn.
