Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon  

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i Aelodau am y rheini yr wyf wedi'u penodi i Fwrdd Chwaraeon Cymru, yn dilyn proses recriwtio agored a ddenodd dros 40 o ymgeiswyr.  

Rwyf wedi penodi Lawrence Conway yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru.  Bu Lawrence yn Gadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru ers Chwefror 2017 ac mae wedi rhoi hyder newydd a phlatfform cadarn i'r sefydliad.  Bydd Lawrence yn parhau i weithredu a sefydlu argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol i Chwaraeon Cymru, gyda'r proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd mwyaf.

Rwyf wedi penodi pedwar person arall i'r Bwrdd, gan fod cyfnod sawl aelod yn dod i ben. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth. Yr aelodau newydd yw Judi Rhys, yr Athro Leigh Robinson, Martin Veale a Phil Tilley. Gyda'i gilydd, maent yn dod â phrofiad eang o'r byd chwaraeon ac ar draws sectorau.

Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swydd, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref.

Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy cynhwysol a iach.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.

Cadeirydd


Lawrence Conway


Ganwyd Lawrence yng Nghaerdydd ac mae'n briod gyda pedwar o blant. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn 1968 a chafodd amrywiol swyddi o fewn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar ddechrau'r 1990au fel Cynorthwyydd i'r Prif Weithredwr. Yn dilyn y penodiad hwnnw bu Lawrence yn bennaeth is-adran y Swyddfa Gymreig o gyrff lled braich wedi'u noddi gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru. Daeth yn bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac Adran y Prif Weinidog yn 1998 ac roedd yn y swydd honno tan iddo ymddeol yn 2010.  Derbyniodd Lawrence y teitl 'Companion of the Bath'  yn 2012.  Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru ers Chwefror 2017.   Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Lawrence, ac ers ymuno â Chwaraeon Cymru dros flwyddyn yn ôl, mae wedi gweld yr effaith uniongyrchol a'r manteision ehangach a gaiff chwaraeon ar iechyd corfforol ar draws maes chwaraeon yng Nghymru.

Aelodau'r Bwrdd


Judi Rhys

Mae gan Judi gefndir ym myd iechyd, addysg a lles cymdeithasol a gweithiodd fel arbenigwr hybu iechyd gyda'r GIG ar y cychwyn yng Nghymoedd De Cymru. Roedd yn diwtor staff y Brifysgol Agored ac yn rheolwr y staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn ei phenodi yn Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, yna'n Gyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, ac yn dilyn hynny Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymdeithas MS y DU.  Mae Judi wedi bod yn Brif Weithredwr gyda'r elusennau Gofal Arthritis ac Ymddiriedolaeth Afu Prydain.  Mae'n gyfarwyddwr anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae ganddi gymhwyster ôl-raddedig yn hyrwyddo iechyd, rheoli, addysg a hyfforddi gweithredol. Derbyniodd Judi wobr Cymrodoriaeth ACEVO yn 2015.  Cafodd Judi ei geni a'i magu yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yn Nghaerdydd. Mae'n mwynhau chwaraeon amatur, ac wedi cystadlu yn y gorffennol ym maes marchogaeth, hoci a nofio ac mae bellach yn redwr pellter hir brwdfrydig.

Yr Athro Leigh Robinson

Mae'r Athro Leigh Robinson yn Athro Rheoli Chwaraeon ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Cyncoed) a Deon Gweithredol Coleg Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil a'i gwybodaeth o ddatblygu mantais gystadleuol a llywodraethu wrth ddatblygu gwledydd sy'n cystadlu ym maes chwaraeon. Mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, megis y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Cymdeithas Olympaidd Prydain, Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago a Llywodraeth Malaysia, gan gynnig hyfforddiant rheoli llywodraethu ac ymgynghori. Mae'n aelod y rhwydwaith MEMOS, rhwydwaith byd-eang o academyddion sy'n gyfrifol am ddarparu addysg rheoli gweithredol ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Bu Leigh yn aelod o Fwrdd Gemau'r Gymanwlad yn yr Alban a Sport Scotland a bu'n cynghori'r sefydliad Olympic Solidarity, comisiwn addysgol y Pwyllgor Olympaidd ar eu rhaglenni dysgu rheoli.

Martin Veale YH

Mae Martin yn Aelod Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, llywodraethwr Coleg Gwent, a llywodraethwr yn ysgol gynradd ei ferch. Mae hefyd yn gwasanaethu ar bwyllgorau archwilio Cyngor Sir Penfro, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Bristol Community Health. Yn ynad ar hyn o bryd, mae Martin ar y fainc yn y Canolbarth.  Aeth Martin i Ysgol Ramadeg Glynebwy, ac mae ganddo radd BA o Ddwyrain Llundain ac MSc o brifysgolion Dinas Birmingham. Mae'n Gymrodor Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac mae ganddo Gymhwyster y Sefydliad Archwilwyr Mewnol mewn Arweinyddiaeth Archwilio Mewnol. Mae ei yrfa cyllid, risg a llywodraethu corfforaethol yn cynnwys llywodraeth leol, y GIG a Llywodraeth Cymru, cyn iddo ymuno â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fel Cyfarwyddwr Cyllid, a daeth yn Bennaeth Archwilio a Risg wedi creu Cyfoeth Naturiol Cymru.   Cafodd Martin ei fagu yng Nglynebwy ac mae bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig a'i ferch. Mae'n cefnogi tîm rygbi Glynebwy a chriced Morgannwg.

Phil Tilley

Mae Phil wedi ymddeol yn ddiweddar yn dilyn gyrfa o dros 25 mlynedd ym maes marchnata uwch-dechnegol. Mae wedi cael profiad o dimau marchnata byd-eang a fforymau'r diwydiant yn cynrychioli cyfathrebu Nokia a strategaethau ac atebion cwmwl. Mae wedi bod yn llongwr gydol ei oes ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd pwyllgor dewiswyr rasio ieuenctid y DU yn ogystal â bod yn aelod o bwyllgor cyfranogiad Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol ac yn aelod o'r pwyllgor. Cafodd ei benodi'n ddiweddar yn ymddiriedolwr AllAfloat Wales, elusen newydd a sefydlwyd i sicrhau bod y chwaraeon ar gael i unrhyw un sy'n agos at ddŵr. Bu ganddo swyddi yn y gorffennol ar bwyllgor rasio ieuenctid y DU a phwyllgor perfformiad Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol yng Nghymru.  Aeth i Brifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ac mae wedi byw yng Nghymru ers hynny. Mae bellach yn briod a chanddo dair merch ac  mae'n byw yn Sir Fynwy. Fel triathletwr prysur, gallwch ei weld yn aml yn  beicio, rhedeg neu nofio ac yn mwynau cefn gwlad Cymru.