Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n fraint aruthrol i mi fel Prif Weinidog gael cyhoeddi enwau aelodau fy Nghabinet cyntaf a phenodiadau Gweinidogol eraill.

Fy nod oedd datblygu Llywodraeth sy'n gweithio fel tîm, sydd â chydbwysedd cadarn rhwng y rhywiau ac sydd â'r amrywiol brofiadau, y doniau a’r ymroddiad angenrheidiol i sicrhau newid i wella ansawdd bywydau pobl Cymru.  

Brexit yw ein her fwyaf. Yn y sefyllfa ryfeddol ac anffodus sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth y DU, mae’n hanfodol ein bod yn paratoi ar gyfer pob canlyniad posib. Rydw i wedi cadw Gweinidogion mewn swyddi lle mae eu profiad o baratoi ar gyfer Brexit yn allweddol, ac wedi creu swydd newydd hefyd sy’n adlewyrchu’r pwyslais rwy’n ei roi ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach. 

Mae Vaughan Gething yn parhau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac fe fydd yn cael cymorth Dirprwy Weinidog newydd - Julie Morgan.

Bydd Eluned Morgan yn arwain portffolio newydd fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Bydd yn gyfrifol am hyrwyddo Masnach Ryngwladol, Cymru yn Ewrop a manteisio i'r eithaf ar botensial ein swyddfeydd tramor. Bydd Dafydd Elis Thomas yn parhau yn ei rôl bresennol fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Mae Ken Skates yn cadw'i bortffolio fel Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyda chymorth Lee Waters fel Dirprwy er mwyn helpu i gyflawni cyfres heriol o gyfrifoldebau.

Rwyf wedi gofyn i Julie James arwain ar feysydd pwysig Tai a Llywodraeth Leol gyda chefnogaeth Hannah Blythyn fel Dirprwy Weinidog.

Rebecca Evans fydd y Gweinidog Cyllid newydd a hi hefyd fydd y Trefnydd, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros Fusnes y Llywodraeth oedd gynt yn gyfrifoldeb Arweinydd y Tŷ.

Bydd Kirsty Williams yn parhau fel Gweinidog Addysg ac rydym wedi llunio cytundeb blaengar newydd fel sylfaen i'w rhan yn fy Nghabinet.

Bydd Lesley Griffiths yn parhau i fod yn gyfrifol am yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig fel Gweinidog.

Rwyf hefyd wedi penodi Jane Hutt yn Ddirprwy Weinidog a fydd yn atebol yn uniongyrchol i mi ar gyfres o gyfrifoldebau gan gynnwys Cydraddoldeb, Cyfiawnder a'r Sector Gwirfoddol.

Yn olaf, rwyf wedi gofyn i Jeremy Miles barhau fel darpar Gwnsler Cyffredinol nes iddo fedru cael ei enwebu gan y Cynulliad i'w benodi gan y Frenhines. Rwyf hefyd wedi gofyn iddo arwain gwaith y Llywodraeth ar Brexit.

Mae'r rhestr lawn fel a ganlyn:

  • Vaughan Gething: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Minister for Health and Social Services 
  • Julie Morgan: Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Deputy Minister for Health and Social Services
  • Eluned Morgan: Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - Minister for International Relations and the Welsh Language
  • Dafydd Elis-Thomas: Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism
  • Ken Skates: Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Minister for Economy and Transport
  • Lee Waters: Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Deputy Minister for Economy and Transport
  • Julie James: Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Minister for Housing and Local Government
  • Hannah Blythyn: Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol - Deputy Minister for Housing and Local Government
  • Rebecca Evans: Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Minister for Finance and Trefnydd
  • Kirsty Williams: Y Gweinidog Addysg - Minister for Education
  • Lesley Griffiths: Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Minister for Environment, Energy and Rural Affairs
  • Jeremy Miles: Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit - Counsel General Designate and Brexit Minister
  • Jane Hutt: Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - Deputy Minister and Chief Whip