Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu Aelodau am benodiadau yr wyf wedi'u gwneud i fwrdd Chwaraeon Cymru, yn dilyn proses recriwtio agored. 

Rwyf wedi penodi Ian Bancroft yn Is-Gadeirydd Chwaraeon Cymru. Mae Ian yn dod â thoreth o wybodaeth a phrofiad i'r swydd, ac yntau wedi bod yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ers mis Hydref 2017, a hefyd drwy ei rôl fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rwyf wedi gwneud tri phenodiad arall i'r Bwrdd, gan fod tymor sawl aelod wedi dod i ben. Yr aelodau Bwrdd newydd yw Nuria Zolle, Rhian Gibson a Chris Jenkins. Gyda'i gilydd maent yn dod â thoreth o brofiad o faes chwaraeon a sectorau pwysig eraill.

Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Bydd yr Is-gadeirydd a'r aelodau newydd yn dechrau yn eu swyddi ar 1 Hydref am dymor o dair blynedd.

Rwy'n hyderus bod gan y Bwrdd yr arbenigedd a'r profiad sydd eu hangen i'm cefnogi fi a staff Chwaraeon Cymru wrth gyflawni'r uchelgeisiau yn ein Rhaglen Lywodraethu.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.

Wrth groesawu'r aelodau newydd hyn rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r aelodau y mae eu tymor yn y swydd wedi dod i ben am eu gwasanaethau. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod gan aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â’r mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Nuria Zolle:

Mae Nuria yn arweinydd profiadol sy'n frwd dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol. Mae ganddi brofiad yn y sector dielw a'r sector cyhoeddus, ac mae hi'n eiriolwr uchel ei pharch wrth fynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo cynhwysiant. Mae hi wedi llunio strategaethau, coalisiynau a phartneriaethau ar lefel genedlaethol a lefel leol. Mae ei gwaith strategol a'i gwaith partneriaeth wedi cael ei defnyddio ledled y DU a thramor, ac wedi helpu i hyrwyddo newid a chynnydd gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb.

Mae Nuria hefyd yn dod â phrofiad helaeth ym meysydd cynllunio strategol, rheoli risg, llywodraethu ac arweinyddiaeth. Mae hi hefyd wedi bod mewn rolau gweithredol ac mae hi'n ymddiriedolwr ar gyfer nifer o elusennau, gan gynnwys y Gweilch yn y Gymuned. Ar hyn o bryd mae hi'n Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe lle mai hi yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Cyllid Elusennol.

 

Rhian Gibson:

Ar hyn o bryd mae Rhian yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae ei chefndir ym meysydd y cyfryngau, cyfathrebu, chwaraeon a diwylliant.

Mae hi wedi gweithio fel uwch arweinydd Newyddion a Materion Cyfoes ar gyfer BBC Wales ac fel Cyfarwyddwr Comisiynu SC4. Mae hi hefyd wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Cymru a Chlwb Merlod y DU, ac mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Elusennau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac fel Dirprwy Gyfarwyddwr i Lywodraeth Cymru. 

Ar hyn o bryd mae hi'n un ymddiriedolwr Diverse Cymru ac yn gyfarwyddwr Clwb Rygbi Pontypridd. Mae Rhian wedi gweithio i gynyddu cyfranogiad, amrywiaeth a chyfleoedd yn eu gwahanol rolau ym maes chwaraeon. Mae Rhian yn siarad Cymraeg ac yn byw yn Aberystwyth.

 

Chris Jenkins:

Chris oedd Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru tan ychydig ar ôl Birmingham 2022, ac mae wedi bod yn gweithio gyda Thîm Cymru ers Melbourne 2006. Wedyn ymunodd â Gemau'r Gymanwlad Cymru yn llawn amser yn 2006 ac roedd yn Bennaeth Tîm Cymru yng Ngemau Delhi 2010, ac fel Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru mae wedi gweld tair o gemau mwyaf llwyddiannus Cymru.

Yn 2011 cafodd ei ethol i Fwrdd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad fel Is-lywydd Rhanbarthol Ewrop, gan wasanaethu am ddau dymor cyn cael ei ethol yn Is-gyfarwyddwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn 2019. Yn y rôl hon bu'n cadeirio'r Pwyllgor Datblygu, yn cefnogi aelodau ac yn arwain mentrau cynhwysiant y Ffederasiwn ar GAPS chwaraeon i'r anabl, am fod Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiad integredig. Hefyd fe yw Cadeirydd Sefydliad Chwaraeon y Gymanwlad.

Cyn ei rolau ym maes chwaraeon, roedd Chris yn gweithio fel rheolwr asedau yn Llundain am 24 o flynyddoedd, gan arbenigo mewn marchnadoedd byd-eang. Roedd yn Gyfarwyddwyr ar gyfer Rothschild. Hefyd roedd yn rhwyfo dros Gymru am wyth mlynedd, gan gynnwys yng Ngemau'r Gymanwlad 1986. Mae ganddo radd o Brifysgol Rhydychen ac MBA o Ysgol Fusnes Warwick. Ar hyn o bryd mae e ym mlwyddyn olaf ei radd mewn cynaliadwyedd digwyddiadau aml-chwaraeon.