Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn. 

Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. Yn sgil ein nod o gyflawni ffyniant gwyrdd, crëwyd swydd newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto.