Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfnod yr Athro Sally Holland yn ei swydd fel Comisiynydd Plant Cymru yn dod i ben ar 19 Ebrill 2022.

Mae’n bleser gennyf dderbyn argymhelliad y panel trawsbleidiol i ddewis yr olynydd, ac rwy’n cyhoeddi mai Rocio Cifuentes fydd y Comisiynydd Plant nesaf.

Roedd y broses o benodi’r Comisiynydd newydd yn golygu cydweithio rhwng panel dewis trawsbleidiol a phanel amrywiol o bobl ifanc. Roedd yr ymgyrch drylwyr hon i benodi Comisiynydd yn cynnwys trafod â phobl ifanc sawl gwaith yn ystod y broses, ac mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn rhan annatod o’r ymarfer recriwtio.

Roedd plant â phobl ifanc yn cymryd rhan mewn pedwar cam allweddol yn y broses recriwtio, yn cynnwys:

  • Cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc i ofyn ei barn am y tri phrif beth sy’n bwysig iddynt fel rhan o rôl y Comisiynydd Plant – a adlewyrchwyd yn y gwaith o baratoi’r pecyn ymgeisio.
  • Ystyried y datganiadau personol a ysgrifennwyd i blant a phobl ifanc gan yr ymgeiswyr ar y rhestr hir gan grŵp o blant a phobl ifanc a oedd, yn eu tro, yn argymell yr ymgeiswyr a ffafriwyd i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r panel penodi trawsbleidiol a’r panel penodi pobl ifanc.
  • Gwnaeth yr ymgeiswyr gyflwyniad i ddosbarth o blant ysgol ar y pwnc “Pe byddwn i’n llwyddiannus, beth fyddai’r pum blaenoriaeth i chi fel Comisiynydd Plant Cymru?  Pa wahaniaeth a fyddech wedi gobeithio’i wneud ar ôl eich blwyddyn gyntaf, ac erbyn diwedd eich cyfnod fel Comisiynydd?” Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer, gan blant, ac yna rhoddwyd adborth ysgrifenedig i’r  panel penodi trawsbleidiol a’r panel penodi pobl ifanc, ar berfformiad pob ymgeisydd, gan y plant. Datblygwyd a gofynnwyd y cwestiynau hyn gan blant, ac fe ffilmiwyd y sesiwn a’i ddangos i’r ddau banel penodi.
  • Cafodd yr ymgeiswyr llwyddiannus gyfweliad ffurfiol gan banel penodi pobl ifanc. Rhoddwyd gwybod am yr ymgeisydd a ffafriwyd i’r panel dewis trawsbynciol, a roddodd ystyriaeth i’r argymhelliad wrth benderfynu ar yr ymgeisydd a ffafriwyd ganddynt hwy. Roedd y panel hwn yn grŵp amrywiol o bobl ifanc o dan gadeiryddiaeth person ifanc.

Hoffwn roi diolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith hwn, ac yn benodol felly i’r plant a’r bobl ifanc a fu’n rhan o’r broses ar wahanol adegau.

Bydd Ms Cifuentes yn dechrau ar y swydd ar 20 Ebrill 2022.

Mae gan Ms Cifuentes gyfoeth o brofiad. Hi yw prif weithredwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), ac mae wedi bod yn ei arwain a’i ddatblygu ers y cychwyn cyntaf yn 2005. EYST yw’r prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru, gyda thîm o 50 o staff. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Cyrff Gwirfoddol Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Coleg Gwŷr a Phrifysgol Abertawe.

Fe’i ganed yn Chile, a daeth i Gymru yn flwydd oed gyda’i rhieni fel ffoaduriaid gwleidyddol. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol cyn ymgymryd â Gradd Meistr mewn Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae wedi gweithio ar gryn dipyn o  Fyrddau Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Bwrdd Cynghori Ieuenctid ar gyfer Fforwm Hil Cymru a Thasglu Ffoaduriaid Cymru. Mae’n aelod o fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn gadeirydd Clymblaid Ffoaduriaid Cymru, ac yn aelod pwyllgor o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’n lywodraethwr ysgol ac yn aelod o fwrdd dau sefydliad elusennol – Mixtup yn Abertawe i bobl ifanc sydd â galluoedd cymysg, a Cardiff Friends of Sickle Cell and Thalassaemia. Mae hefyd yn noddwr Stand Up to Racism Abertawe.

Mae Ms Cifuentes wedi cael nifer o wobrau’n cydnabod ei chyfraniad, gan gynnwys Gwobr am Weithred Gymdeithasol a Dyngarol Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig, gwobr am gyfraniad i gymunedau ethnig leiafrifol gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, ac fe’i gwnaed yn gymrawd er anrhydedd y Sefydliad Materion Cymreig am ei chyfraniad i wneud Cymru yn lle gwell.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i’r Athro Holland am ei hymroddiad a’i brwdfrydedd yn hyrwyddwr annibynnol dros hawliau plant. Rwy’n ddiolchgar i’r Athro Holland â’i thîm hefyd am flaenoriaethu anghenion pob plentyn yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi sicrhau, dro ar ôl tro, drwy ddefnyddio ei rôl yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, fod llais pobl ifanc a phlant yn cael ei glywed a’i barchu.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â’r Athro Holland wrth i’w chyfnod fel Comisiynydd Plant ddod i ben, ac rwy’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.