Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth nodedig hon wedi gwella'n sylweddol ymatebion i drais ar sail rhywedd yng Nghymru, ac mae rôl y Cynghorydd Cenedlaethol o ran cynghori Gweinidogion Cymru wedi bod yn ganolog i'r gwaith o weithredu'r Ddeddf hon. 

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio drylwyr a gwaith craffu cyn penodi gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, bod Johanna Robinson wedi'i phenodi'n Gynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd yn dechrau arni ar 1 Tachwedd 2025, o dan ail dymor. Mae gan Ms Robinson brofiad amhrisiadwy a chyfuniad o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth yn y maes hwn i gynghori ar ein cydymdrechion i gael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol  yng Nghymru.

Bydd Johanna Robinson a Yasmin Khan, fel deiliaid presennol y swydd Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn parhau i weithredu ar sail rhannu swydd hyd 31 Hydref 2025. Bydd tymor y Cynghorydd Cenedlaethol nesaf yn 4 blynedd (2025-2029). 

Sefydlwyd rôl y Cynghorydd Cenedlaethol o dan ddarpariaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ("y Ddeddf"). 

Daeth cyfanswm o 31 o geisiadau i law, gan ddangos ehangder y profiad a'r sgiliau sydd gan y rhai sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â VAWDASV. Cafodd fy mhenderfyniad ei lywio gan y Panel Asesu yn dilyn sesiynau rhanddeiliaid a chyfweliadau, ac Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gynhaliodd sesiwn graffu cyn penodi ar 14 Gorffennaf. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ei adroddiad ac i bawb a fu'n ymwneud â'r Panel Asesu. 

Penodwyd yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Mewn cydweithrediad â'i phartner rhannu swydd, Yasmin Khan, yn ei thymor presennol fel Cynghorydd Cenedlaethol mae Ms Robinson wedi sefydlu'r Panel Craffu Llais Goroeswyr Cenedlaethol, gan sicrhau bod profiadau goroeswyr yn rhan o lunio polisïau a chynllunio strategol, ynghyd â’r Grŵp Cyfeirio Arbenigol VAWDASV sy'n ymgysylltu â'r sector arbenigol annibynnol. 

Mae gan Ms Robinson dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector VAWDASV. Mae ei gyrfa helaeth yn adlewyrchu ymrwymiad dwfn i wella gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr, i ddylanwadu ar newid systemig yn y system cyfiawnder troseddol ac i lywio polisïau â'r nod o fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd. Yn ogystal â'i rôl fel Cynghorydd Cenedlaethol, mae Ms Robinson yn aelod anfarnwrol o Gyngor Dedfrydu Cymru a Lloegr. 

Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i Yasmin Khan am ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad i hyrwyddo blaenoriaethau trais ar sail rhywedd yn ystod ei dau dymor yn y swydd. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Ms Khan am gadeirio'r ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy, elfen allweddol o’r strategaeth VAWDASV, gan ddefnyddio ei rôl i gryfhau lleisiau goroeswyr.

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Ms Khan yn ystod misoedd olaf ei thymor ac rwy’n dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.