Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn tynnu sylw at y ffaith bod mwy na 245,000 eiddo ledled Cymru mewn perygl o lifogydd yn barhaus o afonydd, y môr a dŵr wyneb. Wrth i'n hinsawdd newid, gallwn ddisgwyl i lifogydd ddigwydd yn amlach a bod yn fwy difrifol, ynghyd â'r bygythiad o afonydd yn erydu. 

Nid yw'n bosibl atal pob achos o lifogydd, ond gallwn, ac rydym yn cymryd camau i greu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau rheoli risg, megis awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu a chyflawni ein rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM). Y flwyddyn ariannol hon yn unig gwnaethom ddyrannu £75m i'r rhaglen, sef y gwariant uchaf mewn blwyddyn unigol hyd yma.

Mae rheoli perygl llifogydd yn effeithiol yn galw am gydweithredu rhwng awdurdodau cyhoeddus a Thirfeddianwyr Preifat. Dim ond pwerau caniataol sy'n ymwneud â rheoli llifogydd sydd gan awdurdodau rheoli risg; nid oes ganddynt bwerau i ymyrryd pan fydd afonydd yn erydu – cyfrifoldeb perchennog y glannau yw hyn. Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn y ffordd orau rhaid gweithio gyda’n gilydd, mae gan dirfeddianwyr glannau afonydd rôl hanfodol i'w chwarae. 

Mae unrhyw un sy'n berchen ar dir neu eiddo sydd naill ai'n cynnwys neu sydd wrth ymyl afon, nant neu ffos yn dirfeddiannwr glannau afon. Sefydlwyd egwyddorion perchnogaeth glannau afonydd mewn cyfraith gyffredin ers mwy na 200 mlynedd, ond mae trafodaethau diweddar yn y Senedd ynghylch rheoli perygl llifogydd yn awgrymu nad yw llawer o dirfeddianwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau. 

Mae CNC wedi creu dogfen ganllaw sy'n egluro i dirfeddianwyr yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn berchen ar lannau afonydd, a sut y gallai effeithio arnynt. Rwy'n annog Aelodau yn gryf i rannu’r canllawiau CNC gydag etholwyr fel bod tirfeddianwyr glannau afonydd yn gwybod y cyfan am eu rôl o reoli perygl llifogydd. Bydd hyn yn helpu i wella ein gallu i wrthsefyll llifogydd drwy sicrhau bod ein cyrsiau dŵr a'u hasedau cysylltiedig yn cael eu cynnal i'r cyflwr gorau posibl.