Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae cyfrifon pob un o gyrff y GIG yng Nghymru ar gyfer 2014-15 wedi cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r cyfrifon wedi cael eu paratoi o dan drefn gyllid newydd y GIG, a ddaeth i rym ar Ebrill 1, 2014 ac fe gafodd pob un ohonynt farn archwiliad lân yn 2014-15 oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn 2014-15, rhoes Llywodraeth Cymru arian ychwanegol o £200m i gyrff y GIG mewn ymateb i’r heriau ariannol a nodwyd yn adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield Degawd o Gyni i Gymru?, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014, a £40m pellach i helpu’r GIG i ymateb i’r pwysau sylweddol yn y gaeaf ledled y DU.

Yn ôl datganiadau ysgrifenedig blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Mai a Mehefin 2014, roedd y ddyletswydd gyllid tair blynedd newydd yn un o elfennau hanfodol y fframwaith cynllunio newydd ar gyfer y GIG a gyflwynwyd i wella cynllunio a rheoli ariannol ar draws y GIG yng Nghymru. Fel rhan o’r trefniadau hyn penderfynais na fyddai rhaid i gyrff ad-dalu broceriaeth neu  ddyledion a ddigwyddodd o dan y drefn gyllidol flaenorol.

Ar ôl cwblhau proses gyfrifon 2014-15, llwyddodd pedwar bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth y GIG i weithredu o fewn eu cyllidebau, gan dorri costau yn y gyntaf o’r tair blynedd y caiff eu perfformiad ariannol eu barnu yn eu herbyn.

Er hynny, er i’r drefn newydd gael ei chyflwyno ac er gwaethaf yr arian ychwanegol a ddarparwyd yn 2014-15, ni lwyddodd tair ymddiriedolaeth iechyd - sef byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda - i ymdopi o fewn yr adnoddau a ddyrannwyd iddynt yn 2014-15.

Pan ddechreuodd trefn ariannol tair blynedd y GIG yn 2014, roeddwn yn glir y byddai cyrff y GIG a fyddai’n gorwario eu dyraniadau’n cael eu dal yn gyfrifol. Nid yw’r tri bwrdd iechyd, felly, wedi cael arian ychwanegol i wneud iawn am eu gorwariant.

Cafodd byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro rywfaint o gymorth arian parod ychwanegol yn ystod y flwyddyn oddi wrth Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth i’w galluogi i dalu eu hymrwymiadau arian parod arferol, gan gynnwys y gyflogres a thaliadau i CThEM. Darparwyd hyn fel rhan o’r trefniadau diwedd blwyddyn ac mae wedi cael ei adfer ers hynny yn 2015-16.

Yn unol â’r drefn ariannol newydd a dyletswyddau statudol bydd yn ofynnol i fyrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda lunio cynlluniau i adfer eu gorwariant yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid i hyn gael ei wneud mewn ffordd na fydd yn andwyol i ddarpariaeth barhaus gofal iechyd diogel a chynaliadwy o safon uchel ar gyfer eu poblogaethau lleol.

Edrychaf ymlaen at weld archwiliad Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon Llywodraeth Cymru ac rwyf yn ffyddiog y bydd y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn torri ei chostau yn 2014-15. Llwyddwyd i wneud hyn trwy ddefnyddio arbedion a llithriant ar gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol a delir yn ganolog i wrthbwyso’r diffygion a ragwelir yn y tri chorff.