Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y datganiad hwn yw rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r cynllun gweithredu ugain pwynt a gyhoeddais ar 2 Chwefror 2011, er mwyn gweddnewid perfformiad.  

Addysgu

1. Fel y dywedais mewn datganiad ysgrifenedig ar 23 Tachwedd 2011, rwyf wedi cytuno ar fodel o gynnwys y rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Yr wythnos diwethaf gwahoddwyd Sefydliadau Addysg Uwch i dendro i achredu, cyflenwi a dyfarnu'r rhaglen, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2012. Eleni, byddwn yn ymgynghori ar y gofyniad statudol i bob athro sydd wedi cymhwyso gael ei hyfforddi mewn llythrennedd a rhifedd.

2. Cyn bo hir byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau i gryfhau'r trefniadau ymsefydlu presennol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso er mwyn gwneud dyfarniadau ymsefydlu yn fwy cyson a thrwyadl ledled Cymru.  Byddwn yn rhoi cymorth mentora o'r radd flaenaf i Athrawon Newydd Gymhwyso, a bydd y cymorth hwnnw'n gysylltiedig â'r rhaglen Meistr newydd er mwyn eu helpu i gwrdd â gofynion y Safonau Athrawon wrth eu Gwaith. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ynghylch cofrestru'r gweithlu ehangach.  Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 30 Mawrth 2012, ac mae'n rhan o'r adolygiad o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).  

3. Yn y dyfodol, bydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn canolbwyntio ar anghenion y system ehangach, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd.  Bydd yn gysylltiedig â thair blaenoriaeth y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, ac â rhoi'r fframwaith sgiliau ar waith. Fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus, bydd cyfle i athrawon sydd newydd gymhwyso gyflawni’r cymhwyster Meistr a gaiff ei gyflwyno ym mis Medi. Mae modiwlau'n cael eu datblygu ar gyfer y rhaglen Meistr a fydd yn rhoi sylw i’r arfer mwyaf effeithiol ym maes llythrennedd a rhifedd.  Bydd sylw’n cael ei roi hefyd i reoli ymddygiad ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ogystal â datblygiad plant ac ymarfer myfyriol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  

4. Rydym wedi cyflwyno safonau proffesiynol newydd i benaethiaid ac athrawon, ac mae gofynion o ran llythrennedd a rhifedd yn rhan annatod ohonynt.

Dysgu

5. O ran ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, rydym eisoes wedi cyhoeddi, yr hydref diwethaf, ein bod yn estyn pwerau athrawon o ran defnyddio grym gan staff ysgolion yn ogystal â gallu’r ysgol i ddisgyblu disgyblion ac i osod sancsiynau. Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ddeilliannau a gwella ymddygiad i godi safonau. Bydd athrawon newydd gymhwyso yn dilyn modiwlau datblygu mewn rheoli ymddygiad fel rhan o’r cymhwyster Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Y cam cyntaf yn hyn o beth oedd darparu dros £500,000 i hyfforddi athrawon mewn technegau rheoli ymddygiad, a'r rheini'n dechnegau sydd wedi'u gwerthuso'n dda. Cafodd rhyw 1300 o athrawon eu hyfforddi'r llynedd. Mae data presenoldeb wedi'i gynnwys yn y system ar gyfer bandio ysgolion uwchradd. Erbyn diwedd mis Chwefror, bydd fy swyddogion wedi cwrdd â'r holl awdurdodau i drafod eu perfformiad o ran materion presenoldeb ac ymddygiad.

6. Cafodd y Cyfnod Sylfaen, sy’n cyflwyno plant i ddysgu trwy wneud, ei roi ar waith yn llawn fis Medi diwethaf, ac ni chaiff arwain at ostyngiad mewn llythrennedd. Bydd yr asesiad sylfaenol yn rhoi targed gwaelodol inni, a bydd asesiad parhaus bob blwyddyn wedi hynny i’w gryfhau. Yn dilyn y cylch cyntaf o asesiadau'r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn, cyhoeddais adolygiad cyflym i sicrhau bod yr asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ni am y targed gwaelodol mewn modd effeithiol.  

7. Fel rhan o’n Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol, rydym yn cyflwyno prawf darllen cenedlaethol cyson ledled Cymru.  Nod y rhaglen fydd sicrhau fod llawer llai o ddisgyblion ar ei hôl hi o ran eu hoedran darllen dynodedig. Hefyd, bydd y Rhaglen yn cynnwys elfen a fydd yn canolbwyntio ar blant 5-14 oed, a rhaglenni darllen ‘dal-i-fyny’.  Bydd hefyd yn estyn y disgyblion mwyaf galluog. Mae'r awdurdodau lleol wedi cadarnhau y byddant yn cynnal profion darllen gwirfoddol yn ystod haf 2012. Caiff y Prawf Darllen Cenedlaethol ei roi ar waith yn statudol a bydd y garfan gyntaf yn sefyll y profion ym mis Mai 2013. Bydd gofyn i bob disgybl o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 9 sefyll y prawf darllen. Mae contractwr wedi'i benodi i ddatblygu profion pwrpasol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

8. Mae cynlluniau tebyg ar y gweill ar gyfer rhifedd, ac rydym wrthi'n mireinio ein gofynion er mwyn creu profion rhifedd pwrpasol i ddysgwyr yng Nghymru.  Caiff y rhain eu rhoi ar waith o 2013 ymlaen gyda'r profion darllen. Rydym hefyd wedi ffurfio Paneli Cynghori Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol i ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.  Bydd y rhain yn nodi'n glir yr hyn sydd i'w ddisgwyl o flwyddyn i flwyddyn o ran cynnydd disgyblion ym mhob agwedd ar lythrennedd a rhifedd.

Atebolrwydd

9. Ym mis Mai 2011, sefydlwyd yr Uned Safonau Ysgolion gennym o dan arweiniad y Dr Brett Pugh. Mae wedi rhoi ar waith broses drwyadl o fonitro i ba raddau y mae'r consortia yn cefnogi ac yn herio er mwyn codi safonau yn eu hysgolion. Rhan o'r gwaith hwn oedd y peilot ar gyfer bandio ysgolion uwchradd a gyflwynwyd ym mis Medi. Yna, ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd y bandiau terfynol, a oedd yn cynnwys data 2011. Mae'r Uned wedi cysylltu â chyfarwyddwyr addysg a phenaethiaid gwella ysgolion mewn dau gylch o archwiliadau ym mhob un o'r pedwar consortiwm. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn cytunwyd ar gyfres o gamau i godi safonau mewn ysgolion sy'n tangyflawni, ac mae'r consortia wedi cytuno ar gynlluniau gwella gyda phob un o'u hysgolion ym mand 4 a 5. Mae £480,000 wedi cael ei ryddhau i'r consortia i helpu i weithredu'r cynlluniau hyn.

10. Mae'r Uned Safonau Ysgolion wedi cysylltu â'r holl randdeiliaid drwy'r broses hon ar ei hyd. Mae wedi llunio taflenni a dogfennau ar-lein i esbonio'r broses fandio i rieni a gweithwyr proffesiynol yn y maes. Mae'r Uned wedi ymweld ag ysgolion y gwyddys fod ganddynt arferion da ac mae'n ystyried dulliau o helpu i ledaenu'r arferion da hynny a'u rhoi ar waith yn yr holl ysgolion. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda'r pedwar consortiwm i ddatblygu ymhellach ddulliau o gynorthwyo ysgolion sy'n tangyflawni. Mae hefyd yn gweithio ar fodelau ar gyfer bandio ysgolion cynradd.

11. Ni fydd unrhyw fenter newydd yn cael fy nghymeradwyaeth oni bai ei bod yn ychwanegu gwerth at ein galw am berfformiad gwell, ac o fewn yr Adran Addysg a Sgiliau, cyflwynwyd trefniadau newydd ym mis Medi 2011 i sicrhau y gellir craffu'n fanwl ar bolisïau a mentrau.

12. Byddaf yn edrych ar y posibiliadau i ymgorffori asesiadau PISA o fewn asesiadau ysgolion ar gyfer disgyblion 15 oed. I ateb cwestiynau PISA mae gofyn bod dysgwyr wedi datblygu sgiliau da, yn enwedig o ran llythrennedd, rhifedd a datrys problemau, ac mae angen iddynt fod â hyder i fynd i'r afael â chwestiynau sydd yn eu hestyn. Rydym wedi datblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn helpu athrawon i ddefnyddio cwestiynau PISA, a chwestiynau yn arddull PISA, i gadarnhau a yw'r disgyblion yn deall sut i gael gwybodaeth a sut i gymhwyso'u sgiliau a'u dealltwriaeth. Hanfod y gwaith hwn yw gwella sgiliau bywyd pobl ifanc.

13. Mae angen data ar rieni a rhaid i lywodraethwyr ysgol archwilio data eu hysgol. Mewn rheoliadau gafodd eu gwneud ar 1 Medi 2011, nodir bod angen i adroddiad blynyddol llywodraethwyr yr ysgol i rieni gynnwys yr wybodaeth gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod allweddol ac yn achos ysgol sydd â disgyblion sy'n dilyn rhaglenni astudio cyfnod allweddol 4 y crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd. Ni fydd unrhyw ysgol yn llwyddo yn ei harolygiad Estyn oni chaiff hyn ei wneud.

14. Yn y Mesur Addysg, rydym wedi deddfu i gyflwyno hyfforddiant statudol i lywodraethwyr a chlercod.  

15. Rwy’n disgwyl i bob awdurdod lleol ofalu bod asesiadau athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn gadarn, ac yn cadw at safonau sydd wedi’u pennu’n genedlaethol, yn enwedig o ran llythrennedd. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod ein dull o weithredu yn seiliedig ar ymchwil gadarn ac yn adeiladu ar yr arferion rhyngwladol gorau.

16. Os bydd Estyn yn gweld bod ysgol yn methu, a’m bod i o’r farn nad oes modd ei hadfer, byddaf yn ei chau. Drwy gyfrwng Papur Gwyn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion, rydym wedi ymgynghori ynghylch cynigion i gryfhau'r trefniadau i fynd i'r afael ag ysgolion sy'n tangyflawni a gwella ysgolion.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 5 Ionawr.  Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion ac wedi hynny byddwn yn mynd rhagddo â’r Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion. Byddwn yn llunio Canllawiau Statudol ar gyfer gwella ysgolion a chaiff y rhain eu cynnwys yn y Bil hefyd.  

17. Ar 1 Ionawr 2012, daeth y Rheoliadau Rheoli Perfformiad newydd i rym ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r rhanddeiliaid allweddol i lunio canllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli perfformiad.  Caiff y rhain eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn nhymor y gwanwyn. Bydd gofyn i ysgolion fabwysiadu'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012, a bydd hyn yn rhoi digon o amser iddynt baratoi.

18. Bydd y deunyddiau a gaiff eu paratoi ar gyfer y rhaglen Meistr ar gael i'r holl athrawon ledled Cymru drwy wefan newydd Dysgu Cymru. Heblaw hynny, rydym yn paratoi llu o adnoddau o'r radd flaenaf i gefnogi athrawon ar bob cam yn eu gyrfa fel y gallant gael y dystiolaeth ddiweddaraf am y dulliau mwyaf effeithiol o addysgu a dysgu er mwyn gwella'u harferion.  


Cydweithio

19. Yn y Mesur Addysg, rydym wedi deddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol ffedereiddio byrddau llywodraethu ysgolion.  Rwy’n disgwyl gweld mwy o ffederasiynau o ysgolion, yn gweithredu o dan un pennaeth. Rydym wedi ariannu nifer fawr o gynlluniau peilot ffedereiddio - ac nid yw pob un ohonynt wedi dod i ben hyd yn hyn. Bydd canllawiau yn dilyn a fydd yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o'r cynlluniau peilot.  

20. Mae'r holl awdurdodau lleol bellach wedi cytuno i'r trefniadau consortia.

Rhaglen systematig ar gyfer gwella ysgolion yw hon.  Ei nod yw codi safonau hyd yr eithaf mewn dosbarthiadau, cefnogi athrawon a phenaethiaid, rhoi gwybodaeth i rieni, darparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon ar gyfer gwella ysgolion a sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol, yn enwedig llythrennedd a rhifedd, gan ein pobl ifanc drwy gydol eu haddysg.