Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'n hymrwymiad i Gymru barhau i fod yn genedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, mae'n bwysig datblygu perthynas adeiladol a chadarnhaol â'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig i gefnogi gweithrediad effeithiol Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig. Ar y sail honno, rwyf wedi ysgrifennu at Ursula Von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Amgaeaf gopi er gwybodaeth i'r Aelodau.