Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2016, fe wnes i wahodd sefydliadau i ymuno â mi i ddatblygu parthau plant yng Nghymru.

Mae hyn yn rhan o fy uchelgais i greu cymunedau cryf, cefnogi plant a phobl ifanc yn eu cymunedau, a lleihau'r anghydraddoldebau y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o'i gymharu â'u cyfoedion mewn lleoedd mwy breintiedig.

Nid rhaglen newydd gan y llywodraeth yw hwn, ond ffordd o gydweithio mewn lle penodol er lles plant a phobl ifanc.
Er ein bod wedi dysgu oddi wrth ddulliau gweithredu mewn gwledydd eraill, mae angen datblygu ein dull ni ar sail blaenoriaethau ac adnoddau Cymru.

Mae angen enw unigryw ar ein dull gweithio ni – ac rydw i’n cynnig "Plant yn Gyntaf/Children First".

Fel rwyf eisoes wedi dweud, nid rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru yw hwn.  Yn hytrach, mae'n golygu symud at ffordd hwylusedig o weithio sy'n gyfle i sefydliadau ddod at ei gilydd:


  • mewn lle penodol
  • i gydweithio ar gyfer plant a phobl ifanc yn y lle hwnnw
  • i leihau'r anghydraddoldebau y mae'r plant a phobl ifanc hynny’n eu hwynebu o'i gymharu â phlant a phobl ifanc mewn lleoedd mwy breintiedig.

Rwy'n gwybod bod nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru eisoes yn cydweithio.

Nod Plant yn Gyntaf yw i newid ar lefel leol, yn seiliedig ar anghenion y lle penodol, a nodwyd drwy wrando ar blant a phobl ifanc a'r gymuned leol. Rôl Llywodraeth Cymru fydd i hwyluso a galluogi y dull gweithio yma.

Nid yw Plant yn Gyntaf chwaith yn cymryd lle'r rhaglenni rhagorol sydd eisoes ar waith, fel Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Yn hytrach, mae'n tynnu ynghyd yr holl wasanaethau a chymorth ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion plant a phobl ifanc yn effeithiol yn ardal Plant yn Gyntaf, o'r 1,000 diwrnod cyntaf nes y byddant yn oedolion.

Ni fyddaf yn dweud wrth ardaloedd Plant yn Gyntaf beth y dylen nhw ei gyflawni, na sut y dylen nhw fynd ati i wneud hynny, serch hynny, mae rhai egwyddorion sylfaenol yr wyf yn disgwyl i bawb gadw atyn nhw. Er enghraifft, y dylai fod sefydliad arweiniol sy'n gallu tynnu partneriaid ynghyd i weithio ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr ardal dan sylw.

Rwyf hefyd yn disgwyl i ardaloedd Plant yn Gyntaf ddatblygu ffocws strategol, gan nodi'r canlyniadau y maen nhw eisiau eu cyflawni, ac ystyried o'r cychwyn cyntaf sut byddan nhw’n gwerthuso'r dull hwn o weithio.

Mae yna hefyd rai egwyddorion a blaenoriaethau sy’n barod yn berthnasol i'n holl bolisïau ar gyfer plant, ac felly hefyd yr un mor berthnasol i Plant yn Gyntaf.  

Felly, dylai hawliau plant a phobl ifanc fod yn ganolog i Plant yn Gyntaf, gan gynnwys yr hawl i gael llais yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd yn flaenoriaeth.   Mae astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ymchwil arall ar effaith profiadau o'r fath, yn drawiadol.  Rwyf wedi fy narbwyllo bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a lliniaru eu heffaith, er mwyn rhoi cyfle i'n plant a phobl ifanc a'r cymunedau y maent yn byw ynddyn nhw i ffynnu.

Mae Canolfan Gymorth bellach wedi'i sefydlu. Ei nod yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a sefydliadau, yn ogystal â'r gymdeithas ehangach, yn gwybod am faterion yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Byddaf yn annog ardaloedd Plant yn Gyntaf i fanteisio ar yr arbenigedd a'r cymorth y mae'r ganolfan hon yn gallu eu cynnig.

Rydyn ni’n barod nawr i roi Plant yn Gyntaf ar waith, ac rwy'n ddiolchgar i'r 19 sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu ardaloedd Plant yn Gyntaf. Yn dilyn proses asesu, rydyn ni wedi nodi 5 cynnig sydd eisoes yn barod i’w rhoi ar waith fel arloeswyr a rheini yw – Cwm Tâf, Gwynedd, Casnewydd, Caerffili a Sir Gaerfyrddin.

Credaf y bydd y 5 arloeswr yma yn gallu sefydlu ardal Plant yn Gyntaf yn gyflym a byddan nhw hefyd yn rhoi’r cyfle i ni weld sut mae'r dull hwn yn gweithio ar gyfer materion gwahanol ac mewn cymunedau gwahanol ar draws y wlad.

Roedd nifer o'r cynigion eraill a ddaeth i law hefyd wedi'u datblygu'n dda, ac rydyn ni’n rhagweld y gallan nhw hefyd ddod yn rhan o Plant yn Gyntaf yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i annog a hwyluso'r cynigion hyn wrth iddyn nhw ddatblygu ymhellach.

I'r perwyl hwn, mae fy swyddogion wrthi'n trefnu digwyddiad dysgu ar gyfer yr arloeswyr a phawb arall a gyflwynodd gynigion. Hynny er mwyn rhoi dechrau da i Plant yn Gyntaf, a datblygu rhwydwaith o bartïon â diddordeb a fydd yn gallu helpu i'w ehangu yn y dyfodol:  naill ai drwy ddod yn ardaloedd Plant yn Gyntaf eu hunain, neu fel partneriaid yn cyfrannu sgiliau neu arbenigedd penodol.

Rwy’n pwysleisio nad dull gweithio o'r brig i lawr yw hwn. Y tu hwnt i'r egwyddorion sylfaenol, mater i'r sefydliad arweiniol lleol a'i bartneriaid yw gweithio gyda'r gymuned, a phlant a phobl ifanc, i ddatblygu cynllun strategol yn seiliedig ar anghenion lleol. Byddaf yn hwyluso ac yn cefnogi'r gwaith, ac yn barod i drafod sut allwn helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n codi ar hyd y ffordd.

Rwy'n disgwyl y bydd manteision ardaloedd Plant yn Gyntaf yn dod i'r amlwg dros amser, ac y bydd y dull amlasiantaeth a chydweithredol hwn ar waith yn ehangach.