Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Eleni, rwyf wedi canolbwyntio'n benodol ar bobl hŷn a phobl sy'n byw gydag eiddilwch. Maent yn defnyddio'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn fwy nag unrhyw grŵp poblogaeth arall ac yn haeddu dim llai na gwasanaethau sy'n gydnaws â'u hanghenion a'u gofynion penodol ac unigryw. 

Felly, rwy'n falch o gyhoeddi Datganiad Ansawdd Integredig (y Datganiad) sy'n canolbwyntio ar Bobl Hŷn a Phobl sy'n Byw gydag Eiddilwch.

Mae gwella ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd a lles pobl pan fyddant yn hŷn yn aml yn gofyn am gydweithio rhwng nifer o wasanaethau a sefydliadau mewn ffordd sy'n atgyfnerthu'r naill a'r llall. Mae'r Datganiad yn nodi'r priodoleddau ansawdd ac yn darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer y ffordd gydweithredol hon o weithio. Mae'n darparu fframwaith ac arweiniad ar gyfer datblygu safonau sy'n gysylltiedig â model o ofal integredig sy'n ymateb i anghenion pobl hŷn a phobl sy'n byw gydag eiddilwch, yn ogystal ag elfennau system gofal cymunedol integredig.

Bydd y Datganiad yn cefnogi gwasanaethau a sefydliadau i gynllunio a gweithio gyda'i gilydd yn wahanol. Bydd gweithredu'r safonau yn helpu i sicrhau gwasanaethau mwy cyson a llai tameidiog ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan wella gwerth a chynaliadwyedd. 

Rhaid rhoi blaenoriaeth i wneud y mwyaf o gyfleoedd i wella iechyd a lles pobl pan fyddant yn hŷn.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.