Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyfarfu Cyngor Gweinidogion Amaeth yr UE mis diwethaf (18-19 Mawrth) i drafod y camau nesaf ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Mae llawer o waith da wedi’i wneud, diolch i egni a ffocws Llywyddiaeth Iwerddon o dan arweiniad y Gweinidog Simon Coveney.  Mae’n dda gen i ddweud y cafwyd cytundeb ‘mewn egwyddor’ ar holl brif bwyntiau’r pecyn diwygiadau yn hwyr noson 19 Mawrth.  Rwy’n optimistig y bydd hyn yn arwain at gytundeb llawn rhwng y Cyngor, Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd fis Mehefin eleni.  O bryd hynny ymlaen, a chan ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad presennol ar y PAC, byddaf mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniadau manwl ynghylch diwygio’r PAC yng Nghymru.

Mae pecyn diwygio’r PAC a gymeradwywyd gan y Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru mewn sawl ffordd.

Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn cydnabod y dylai diwygiadau’r PAC ystyried y trefniadau cyfansoddiadol gwahanol o fewn Aelod-wladwriaethau.  Rwyf wedi bod yn dadlau’n gryf o blaid hyn ar lefel y DU a’r UE i wneud yn siŵr bod penderfyniadau am drefnu’r PAC yng Nghymru yn y dyfodol yn cael eu gwneud yng Nghymru a ddim ar lefel y DU (yr Aelod-wladwriaeth).  Mae cynigion y Cyngor ar gyfer y rheoliadau newydd wedi’u bwriadu i roi’r hyblygrwydd i Aelod-wladwriaethau (a’u ‘rhanbarthau’, fel Cymru) allu creu polisïau sy’n ateb eu gofynion o fewn fframwaith eang y diwygiadau i’r PAC.  Croesewir hyn.  Mae’n bwysig gan ei fod yn golygu y caiff Llywodraeth Cymru ei hun benderfynu ar y polisi ar brif agweddau’r PAC, fel pa mor gyflym y dylid symud at daliadau yn ôl arwynebedd a sut i drefnu’r taliadau gwyrdd.  Mae’r cynnig yn cadarnhau hawl Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau dros Gymru yn y meysydd hyn heb gyfraniad Llywodraeth y DU.  Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Gwlad dros yr Amgylchedd, Owen Paterson AS, am ei gefnogaeth glir ar y mater hwn.

Roeddwn yn bryderus ynghylch cynnig gwreiddiol y Comisiwn o blaid newid cyflym o daliadau hanesyddol i daliadau arwynebedd.  Mae angen i’r diwydiant ffermio gydnabod ac ymateb i’r tebygolrwydd y bydd taliadau uniongyrchol Colofn 1 y PAC yn lleihau ac yn y pen draw yn diflannu.  Serch hynny, rhaid i gyflymder a natur y newid ystyried gallu busnesau fferm i addasu.  Ni fyddai mantais i Gymru wrth reswm pe bai diwygiadau’r PAC yn gwneud ffermydd yn fethdalwyr.  Yn y cyd-destun hwn, roedd cynnig gwreiddiol y Comisiwn, sef bod 40% o daliadau’r flwyddyn gyntaf yn daliadau arwynebedd, yn ormod ac rwy’n falch felly bod y Cyngor yn cynnig y gallai hyn fod mor isel â 10%.  Os bydd y Comisiwn a Senedd Ewrop yn derbyn cynnig y Cyngor, bydd yn rhoi’r rhyddid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru ddylunio a threfnu’r newid yn hwylus, o fewn amserlen a chan ddilyn camau sy’n ateb gofyn Cymru, hynny ar ôl y sgwrs sy’n digwydd ar hyn o bryd â rhanddeiliaid.

Mae’n hanfodol bod ffermydd Cymru’n diogelu’r amgylchedd naturiol trwy weithio’n gynaliadwy.  Rwyf wedi cefnogi dyhead cyffredinol y Comisiwn mai trwy fesurau gwyrdd y mae delio â hyn ond rwy’n poeni am eu diffyg hyblygrwydd ac mai’r un mesurau sydd i bawb, a’r cymhlethdod mawr a ddaw yn sgil hynny. Ceir amrywiaeth eang o amgylcheddau a hinsoddau yn Ewrop sy’n dylanwadu’n drwm ar ddulliau ffermio.  Rwy’n falch bod y Cyngor yn sylweddoli bod posibilrwydd y gallai bron pob fferm yng Nghymru fod yn gymwys am daliad gwyrdd gan fod bron pob fferm o dan borfa barhaol.  Mae’r Cyngor wedi ehangu’r cysyniad ‘gwyrdd’ trwy ei gwneud yn bosibl i Aelod-wladwriaethau neu’r rhanbarthau, ddefnyddio ‘cynlluniau ardystio’; mewn geiriau eraill, cynlluniau sy’n rhoi manteision amgylcheddol sydd o leiaf mor fawr â rhai’r mesurau gwyrdd.  

Mae’r Cyngor yn bendant ei safiad hefyd ynghylch cosbau gwyrdd, ac y dylid cynyddu’r gosb orfodol o 30% o elfen werdd y taliadau uniongyrchol i ffermwyr i gymaint â 45% o daliadau uniongyrchol ffermwyr.  Er mawr siom, ac er gwaethaf pwysau mawr o dan arweiniad y DU, nid yw’r Cyngor wedi delio â’r posibilrwydd y gallai ffermwyr gael eu talu ddwywaith am yr un weithgarwch amgylcheddol (o dan golofn 1 a cholofn 2 – y cynllun datblygu gwledig).  O gofio gwrthwynebiad Senedd Ewrop i’r cysyniad serch hynny, rwy’n hyderus na fydd hyn yn rhan o’r rheoliadau terfynol.

Mae’n rhy fuan dweud eto beth fydd effaith y newidiadau hyn i’r mesurau gwyrdd ar Gymru, yn enwedig ein cynlluniau Glastir.  Fodd bynnag, rwy’n credu y bydd lle yn y rheoliadau i mi allu dylunio a chynnig atebion da er lles ein hamgylchedd naturiol sy’n cydnabod ac yn ategu arferion ffermio da a’r gwasanaethau amgylcheddol y mae’r tir yn eu darparu.

Mae’r Cyngor o blaid rhoi’r hawl i Aelod-wladwriaethau gael dewis drostynt eu hunain ynghylch materion fel cymorth cysylltiedig, ardaloedd â chyfyngiadau naturiol a newydd-ddyfodiaid ifanc.  Rwy’n fodlon â’r trywydd bras hwn gan ei fod yn rhoi’r modd heb orfodaeth i gyflwyno cymorth penodol ar gyfer y materion hyn o dan Golofn 1 neu i fynd i’r afael â nhw yng Ngholofn 2.  Ceir dadleuon o blaid y naill a’r llall ac rwy’n disgwyl ymlaen at glywed barn y rhanddeiliaid trwy’r ymgynghoriad presennol.  Yn yr un modd, mae’r hyblygrwydd bychan sydd gennym i symud arian rhwng Colofnau 1 a 2 yn ddefnyddiol i Gymru.

Mae’n ansicr o hyd pryd y bydd diwygiadau’r PAC yn dechrau.  Ceir pob argoel y bydd taliadau uniongyrchol Colofn 1 yn dechrau yn 2015.  Gallai Colofn 2 gael ei chyflwyno yn 2014.  Byddai hynny’n gwneud hi’n anodd sicrhau bod y ddwy Golofn yn ategu ei gilydd.  Gobeithio y daw pethau’n glir ynghylch y pwyntiau hyn cyn hir.  

O dan drefniadau sefydliadol yr UE, bydd cynigion y Cyngor yn awr yn sail i ragor o drafod dwys teirffordd rhwng y Cyngor, y Comisiwn a Senedd Ewrop, gan ddechrau ar 11 Ebrill a chan barhau hyd at ddiwedd Mehefin.  Byddaf yn cadw llygad barcud ar hynt pethau a byddaf yn dal i weithio gyda’r Comisiwn a’r Llywydd, ac yn parhau i siarad ag ASEau.  Byddaf yn cydweithio’n glos â Gweinyddiaethau Datganoledig y DU a Llywodraeth y DU fel aelod o dîm y DU; fy nod yw diogelu a hybu buddiannau Cymru.  Mae llawer o waith manwl i’w wneud eto ar lefel swyddogol a bydd fy Adran yn cydweithio’n glos ag adrannau cyfatebol yn y DU a chyda’r Comisiwn.

Cyhoeddais bapurau am y Cynllun Datblygu Gwledig a Thaliadau Uniongyrchol, y naill ar 31 Ionawr a’r llall ar 6 Chwefror, gan nodi pynciau llosg Cymru a disgrifio’r gwaith cyd-destunol a modelu taliadau sydd wedi’i wneud hyd yma, a chan wahodd ymatebion.  Dyma rannau diweddaraf fy sgwrs â’r diwydiant ffermio a rhanddeiliaid ynghylch sut y dylai Cymru roi’r diwygiadau i’r PAC ar waith.  Edrychaf ymlaen at weld yr ymateb yn niwedd Ebrill a Mai.  Law yn llaw â hynny, rwyf wedi cynnal tri chyfarfod mawr â rhanddeiliaid am y Cynllun Datblygu Gwledig a Chronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop ac rwyf wedi cynnal tri o’r chwe chyfarfod nos â ffermwyr a rhanddeiliaid am daliadau uniongyrchol.  Mae llawer o bobl wedi dod i bob cyfarfod a da oedd gweld lefel y cyfranogi a’r diddordeb ym mhob rhan o Gymru.

Mae canlyniadau cyfarfod y Cyngor yr wythnos hon yn gam arwyddocaol at benderfynu ar siâp y PAC yn y dyfodol.  Mae Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid yn awyddus i wybod beth fydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru.  Mae ffurf derfynol y rheoliadau wedi dod yn gliriach ond bydd y cyfarfodydd teirffordd a chytuno ar y gyllideb ar lefel yr UE a’r DU yn waith anodd.  Rwyf wedi ymrwymo i’r ddeialog rwyf wedi’i dechrau â rhanddeiliaid a byddaf am bwyso a mesur yr ymatebion yn ofalus cyn penderfynu ar unrhyw beth.  Bydd yr ymatebion i ‘fy sgwrs’ a’m cyfarfodydd yn bwydo fy mhenderfyniadau ynghylch diwygiadau’r PAC.

Gan gymryd y bydd gwaith da’r wythnos yn parhau, rwy’n gobeithio gallu gwneud penderfyniadau am y PAC yn yr haf.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu gwaith caled i sicrhau bod buddiannau Cymru’n amlwg yn ystod y broses hon.  Caiff Aelodau’r Cynulliad fwy o wybodaeth gennyf pan fydd yna ddatblygiadau. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.