Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Pont Menai yn strwythur eiconig hanesyddol a hynod bwysig i bobl Gogledd Cymru, gan ei bod yn groesfan hanfodol rhwng Ynys Môn a'r tir mawr. Mae'r bont yn rhan o Fenter Cyllid Preifat (PFI) yr A55 ar draws Ynys Môn, y mae UK Highways A55 Ltd. yn ei rheoli drwy gontract Dylunio, Adeiladu, Ariannu a Gweithredu (DBFO).
Mae'r bont yn agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026 ac mae angen gwaith cynnal a chadw sylweddol arni i sicrhau ei bod yn parhau i weithredu'n ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod. Roedd y gwaith cynnal a chadw hyn (Cam 2), sy'n cynnwys gweithgareddau cadwraeth ac ailbeintio'n llawn, wedi'i gynllunio i ddechrau 2 flynedd yn ôl ond darganfuwyd diffyg posibl gyda'r hongwyr a olygodd y bu'n rhaid rhoi rhai newydd yn eu lle ar unwaith (Cam 1) ac wedi hynny gohiriwyd y gwaith ar gyfer Cam 2 tan ar ôl i'r hongwyr gael eu newid.
Cwblhawyd y gwaith cam 1 yn llwyddiannus fis Hydref diwethaf. Caniatawyd i'r bont ailagor i'r holl draffig dros gyfnod y gaeaf; gan sicrhau gwydnwch mawr ei angen i'r ardal, yn enwedig yn ystod y stormydd niferus a effeithiodd ar Gymru y llynedd, drwy ganiatáu i draffig barhau i groesi tra bod gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Bont Britannia.
Yn anffodus, ac yn hynod siomedig, oherwydd materion caffael, gofynion ychwanegol a materion o ran cael trwyddedau angenrheidiol, mae UK Highways A55 DBFO Ltd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru nad yw'r gwaith cam 2 bellach yn debygol o gael ei gwblhau tan y gwanwyn 2026. Bydd hyn yn arwain at y gwaith yn parhau yn ystod dyddiad 200 mlwyddiant y bont, sef 30 Ionawr 2026, ac nid dyna'r hyn y byddem wedi'i ddymuno. Fodd bynnag, mae UK Highways A55 Ltd wedi ymrwymo i ni y byddant yn sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar gyfer cyfnod yr haf er mwyn gwneud yn siŵr y gall y dathliadau, sydd ar hyn o bryd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â phen-blwydd Thomas Telford ar 9 Awst 2026 ar anterth y tymor twristiaeth, fynd rhagddynt heb gyfyngiadau a bydd y bont yn cael ei hadfer i'w holl ogoniant. Bydd fy swyddogion yn monitro'r gwaith yn agos, drwy ymweliadau safle aml a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r tîm safle, ac os oes unrhyw sgôp i'r gwaith gael ei gwblhau'n gynharach, yna bydd yn cael ei wneud.
Rwy'n hynod siomedig bod oedi o ran y rhaglen wreiddiol gan UK Highways A55 DBFO Ltd. Cawsom sicrwydd ar y pryd y byddai'r gwaith Cam 2 yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025, ac rwy'n gwybod y bydd y newyddion hyn yn siomedig iawn i'r gymuned ac eraill. Mae oedran y bont a'r ffaith ei bod yn ased hanfodol i'r ardal yn golygu ei bod yn hollbwysig bod y gwaith yn cael ei gwblhau i'r safonau uchaf i sicrhau ei bod yn parhau i weithredu am y 200 mlynedd nesaf.