Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn dilyn cyhoeddi Gorchmynion drafft, Datganiad Amgylcheddol a Datganiad i Hysbysu Asesiad Priodol ar gyfer y cynllun i godi pont newydd yn lle'r hen un dros Afon Dyfrdwy ar yr A494 ym mis Medi a Hydref 2025, rwyf wedi ystyried yr ymatebion a ddaeth i law yn ofalus fel rhan o'r broses ymgynghori statudol. O'r pump gwrthwynebiad statudol a ddaeth i law, mae tri wedi’u tynnu'n ôl ac mae'r ddau wrthwynebiad statudol sy’n weddill yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ac yn ymwneud â materion iawndal yn unig. Felly, rwyf wedi penderfynu nad oes angen Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus ac y gellir gwneud y Gorchmynion drafft gan ymgorffori mân addasiadau.
Mae'r penderfyniad hwn yn gam arall i gwblhau'r broses statudol, a bydd fy swyddogion nawr yn sicrhau bod y gofynion hysbysu perthnasol yn cael eu cydymffurfio a byddant yn trefnu i'r llythyr penderfyniad a'r gorchmynion a wnaed gael eu cyhoeddi cyn bo hir. Bydd y broses hon yn cynnwys cyfnod herio chwe wythnos yn yr uchel lys lle bydd y dogfennau gorchmynion perthnasol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliadau penodedig. Bydd fy swyddogion hefyd yn parhau â'u gwaith ymgysylltu â pherchnogion tir yr effeithir arnynt i gytuno ar hawliau iawndal.
Mae Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 yn darparu cysylltiad hanfodol ar gyfer traffig trawsffiniol rhwng gogledd Cymru, gogledd-orllewin Lloegr a thu hwnt, gan gysylltu pobl, cymunedau a busnesau. Mae angen pont newydd oherwydd cyflwr strwythurol gwael dec y bont bresennol, ac felly mae angen rhoi un newydd yn ei lle.
Bydd y bont newydd yn cynnwys pedair lôn a lleiniau caled, llwybrau cerdded a beicio newydd a gwell ynghyd â nodweddion gwell o ran tirlunio a bioamrywiaeth.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn cael ei wneud i ffwrdd o'r bont bresennol, felly gall yr A494 aros ar agor yn ystod y rhan fwyaf o'r gwaith.
Rydym yn parhau i gaffael contractwr i gyflawni dyluniad manwl ac adeiladu'r cynllun gyda'r penodiad wedi'i gynllunio yn ystod yr haf.
Gallai gwaith adeiladu'r cynllun hwn ddechrau yn ystod gaeaf 2026/27, yn amodol ar gwblhau'r broses statudol, gyda'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn gaeaf 2029.
