Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Bydd diwygio'r bysiau'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru. Gall cysylltu pobl ag amwynderau, gweithleoedd a mannau hamdden gefnogi twf economaidd a lleihau anfantais gymdeithasol, sy'n allweddol i greu Cymru decach a mwy cyfartal.
Bydd sicrhau manteision diwygio'r bysiau yn cymryd amser. Ein bwriad yw gweithredu diwygiadau yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, Gogledd Cymru yn 2028, De-ddwyrain Cymru yn 2029 a Chanolbarth Cymru yn 2030, fel yr amlinellir yn y Map Ffordd i ddiwygio'r bysiau: Diweddariad i'r ardaloedd masnachfreinio, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024.
Mae gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn allweddol i greu rhwydwaith bysiau sy'n gweithio i gymunedau. Rwyf wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig ym mhob un o'r rhanbarthau i nodi a chytuno ar y diffiniad o rwydwaith da. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau.
Rwy'n gwybod nad yw rhannau o Ganolbarth Cymru yn cael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r system wedi'i dadreoleiddio bresennol yn ffafrio llwybrau masnachol proffidiol, nad oes llawer ohonyn nhw yn ardaloedd gwledig Ceredigion a Phowys. Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddiogelu gwasanaethau y maen nhw'n credu eu bod yn angenrheidiol yn gymdeithasol – yng Nghanolbarth Cymru mae'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith presennol yn cael ei dendro gan awdurdodau lleol.
Mae hwn yn fodel tebyg i fasnachfreinio'r bysiau, felly mae wedi rhoi cyfle inni brofi ein cynlluniau a helpu i hybu darpariaeth bysiau yn y rhanbarth. Mae 'Pontio i Fasnachfreinio', dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol Canolbarth Cymru a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, wedi dechrau gyda'r bwriad o ddyfarnu contractau eleni. Bydd y Rhwydwaith Pontio yng Nghanolbarth Cymru yn ceisio adeiladu ar fuddsoddiadau diweddar yng ngwasanaethau craidd TrawsCymru, a cheisio darparu gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd sydd wedi'u cysylltu'n well ar draws y rhanbarth.
Er nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu ar gyfer popeth, mae angen inni weithredu diwygiadau i fysiau yn effeithiol ledled Cymru. Mae Pontio i Fasnachfreinio yn ein galluogi i dreialu amodau tebyg iawn i'r rhai y gallwn ddewis eu defnyddio o dan system fasnachfreinio. Mae hyn yn cynnwys:
- Safonau gofynnol ar gyfer cerbydau a fydd yn cael eu pennu fel rhan o gontractau, gan sicrhau bod cerbydau allyriadau isel a cherbydau iau'n cael eu defnyddio.
- Prisiau fforddiadwy, gyda'r bwriad o wneud teithiau bws yn fwy deniadol na defnyddio car.
- Cynnal cystadleuaeth iach yn y farchnad drwy geisio denu busnesau bach a chanolig a gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol i gyflwyno cynigion, yn ogystal â gweithredwyr rhyngwladol.
- Gwella dibynadwyedd gwasanaethau, cynnal lefelau uchel o iechyd a diogelwch, a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Ystyried y 'cynnyrch cyfan', fel yr amlinellir yn y Map ffordd i ddiwygio bysiau. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y gellir integreiddio teithio ar gyfer disgyblion ysgol i leihau'r gofyniad am wasanaethau ysgol caeedig.
Er mai Canolbarth Cymru fydd y rhanbarth olaf i gael ei fasnachfreinio'n llawn, bydd llawer o'r gwelliannau y byddwn yn eu gweld pan gyflwynir masnachfreinio yn cael eu gwireddu gryn dipyn ynghynt. Mae hwn yn gyfle da i'r diwydiant baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil masnachfreinio. Mae teithwyr o'r pwys mwyaf – mae pobl Canolbarth Cymru eisoes yn elwa ar lwybrau ac amserlenni newydd, a byddan nhw'n gweld rhagor o welliannau yn y blynyddoedd nesaf.
