Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, dymunwn roi gwybod ichi y cafodd cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol – yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei gynnal ar 13 Medi 2023.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Lesley Griffiths (Aelod o Senedd Cymru), y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Yn bresennol yn y cyfarfod hefyd roedd Julie James (Aelod o Senedd Cymru), y Gweinidog Newid Hinsawdd, Mairi Gougeon (Aelod o Senedd yr Alban), Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir, a’r Ynysoedd, Dr Therese Coffey (Aelod o Senedd y DU), yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Arglwydd Beynon (Aelod o Senedd y DU), y Gweinidog Gwladol dros Fioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig, James Davies (Aelod o Senedd y DU), Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, a Mrs Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol yn absenoldeb Gweinidog Gogledd Iwerddon.

Agorodd y cyfarfod gyda thrafodaeth am y paratoadau ar gyfer gweithredu Fframwaith Windsor. Mae gwaith wedi cael ei gyflawni’n gyflym i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer gweithredu’r mwyafrif o’r fframwaith ar 1 Hydref 2023. Bwriedir i’r cynllun teithio anifeiliaid anwes a labelau Prydain Fawr ddod i rym y flwyddyn nesaf. Bydd y cydweithio’n parhau er mwyn sicrhau bod y rhain yn barod ar gyfer 2024.

Bu trafodaeth am y paratoadau ar gyfer COP28, a sut y gallwn nodi’r meysydd blaenoriaeth domestig a rennir er mwyn rhoi ffocws i’n hymdrechion o ran sero net.

Yn dilyn hyn cyflwynodd Llywodraeth yr Alban bapur ar eu cynnig i wahardd gwerthu a bod ym meddiant trapiau glud cnofilod yn yr Alban, a’r ffordd y byddai’r gwaharddiad  yn rhyngweithio â’r Ddeddf Marchnad Fewnol. Mae Llywodraeth yr Alban yn troi at y llywodraethau eraill i gadarnhau eu bod wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad terfynol ynghylch pa un a ddylid cefnogi gwaharddiad neu beidio.

Wrth ymdrin â’r eitem barhaol olaf, cafwyd trafodaeth am Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel, a phwysigrwydd cynnwys y llywodraethau datganoledig mewn trafodaethau am yr elfennau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, bwyd a materion gwledig ar gyfer cytundebau masnach rydd yn y dyfodol.

Yn olaf, roedd nifer o eitemau unrhyw fusnes arall, gan gynnwys y Ddeddf Cŵn Peryglus, monitro ansawdd dŵr, y Bill Allforion Byw a gwahardd weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. O ran monitro ac adrodd ar ansawdd dŵr, cytunodd y Gweinidogion i gydweithio i archwilio’r hyn a wneir ym mhob gwlad ar hyn o bryd. 

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd.