Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r Sector Awyrofod yn aruthrol o bwysig yng Nghymru, yn cyflogi dros 22,000 o bobl, gyda chwmnïau fel EADS, yn cynnwys Airbus yn y DU a Cassidian, BAE Systems, Finmeccanica, General Dynamics, General Electric a Raytheon oll yn ychwanegu at sector sy'n cynhyrchu ymhell dros $5 biliwn o werthiant y flwyddyn.  

Mae Sioe Awyr Paris yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr y diwydiant awyrofod, am yn ail flwyddyn gyda Sioe Awyr Farnborough; mae'n cystadlu i fod yn brif ddigwyddiad awyrofod Ewrop, ac un y bydd pob cwmni awyrofod yn y DU yn bresennol ynddo.  Roedd yn bwysig, felly i Lywodraeth Cymru gael presenoldeb cryf yno.  Eleni, roedd tîm y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch yn cynnal stondin ar ran Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Fforwm Awyrofod Cymru.  Hefyd roedd presenoldeb gan bum cwmni o Gymru ar y stondin.  

Mae dwy ardal bwysig i'r diwydiant awyrofod yng Nghymru, sef y Gogledd-ddwyrain, gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, a'r De-ddwyrain gan gynnwys Caerdydd, Sain Tathan a Nantgarw.  Hefyd mae coridor awyr unigryw ar gyfer cerbydau awyr di-griw o BarcAberporth, yr unig faes awyr sifil trwyddedig yn y DU sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer hedfan dros dir a môr.  

Bu Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ar y pryd, yn bresennol yn y Sioe Awyr ar fy rhan ar ddydd Mawrth 18 Mehefin 2013.  Yng nghwmni swyddogion, bu mewn cyfarfodydd lefel uchel gyda chwmnïau allweddol, gan gynnwys; Airbus, Thales, Lockheed Martin, Triumph a Cytec yn ogystal â chyfarfodydd gyda chynrychiolwyr UKTI, BIS ac ADS.    Cynhaliodd gyfarfodydd anffurfiol i drafod Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod a'r Sefydliad Technoleg Awyrofod gydag uwch gynrychiolwyr ADS.  Hefyd bu mewn trafodaethau gyda Gweinidog Busnes a Menter Llywodraeth y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd y sector i Gymru.  

Cafodd y Dirprwy Weinidog drafodaethau agored a diffuant gyda phob un o'r cwmnïau y cyfarfu.  Mae wedi ysgrifennu at bob cwmni i ddiolch iddynt am gynnig lle i gynnal y cyfarfodydd yn ystod ei ymweliad, ac mae wedi cynnig cymorth gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddaf yn sicrhau ein bod yn gweithredu ar hyn.

Y cwmnïau o Gymru a ymunodd â stondin Llywodraeth Cymru oedd: Tritech, Electroimpact; Faun Trackway; Denis Ferranti a DNA - Agile, ac fe ddywedodd pob un bod y sioe yn brofiad cadarnhaol a hwylusodd gyfarfodydd gyda chleientiaid presennol a chleientiaid newydd posibl.   Roedd y sioe yn ffordd o gynnal ymwybyddiaeth o'u brand a pharhau i ddatblygu perthynas.  

Nododd Tritech yn arbennig iddynt gael dros 78 ymweliad â'r stondin, gyda 14 yn mynegi diddordeb ac o bosib yn arwain at gwsmeriaid newydd.  Cawsant archeb gwerth £2.652m yn y Sioe Awyr.

Roedd fy swyddogion hefyd yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda busnesau sydd eisoes yng Nghymru, sydd â rhiant gwmni tramor.  Mae'r cyfarfodydd hyn wedi clustnodi prosiectau posibl ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i 200 o swyddi newydd a buddsoddiad sector preifat gwerth £49.6m.   Mae'r trafodaethau'n gyfrinachol ar hyn o bryd, ac fe fyddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau pan fydd modd rhyddhau rhagor o wybodaeth.

Roedd presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Sioe Awyr Paris yn cadarnhau fy marn fod yn rhaid i ni gael ein cynrychioli ar y lefel uchaf mewn digwyddiadau pwysig i'r sector ar draws y byd.  Byddaf yn parhau i ganmol cryfder a phwysigrwydd y sector hollbwysig hwn o ran swyddi technoleg uchel, cyllid, a'n safle o fewn y farchnad fyd-eang hon.