Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, hoffwn roi gwybod i chi fod cyfarfod pellach o'r Grŵp Rhyng-Weinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi'i gynnal ar 5 Rhagfyr.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Arglwydd Richard Benyon, y Gweinidog Bioddiogelwch, y Môr a Materion Gwledig, Llywodraeth y DU. Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Mairi Gougeon ASP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, Economi Gylchol a Bioamrywiaeth, Llywodraeth yr Alban; Mrs Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol, Adran yr Amgylchedd Amaeth a Materion Gwledig, Llywodraeth Gogledd Iwerddon (yn lle'r Gweinidog); James Davies AS, Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru; a John Lamont AS, Is-ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

Yn y cyfarfod buom yn trafod y materion sy'n cael effaith ar y sector dofednod ac wyau ar hyn o bryd, yn unol â’r cais gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, yn dilyn pryderon a godwyd gan ein rhanddeiliaid.

Buom yn trafod statws Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu). Gofynnais i Defra roi manylion i swyddogion am ei gynlluniau cyn gynted â phosib.   

Rhoddodd yr Arglwydd Benyon ddiweddariad ar Becyn Gwella Amgylchedd Gwynt ar y Môr, a diwygiadau arfaethedig i gydsynio prosiectau gwynt ar y môr. Er fy mod yn cytuno gyda bwriadau'r gwaith, pwysleisiais fy mhryderon dros y ddeddfwriaeth arfaethedig a phwysleisiodd fod yn rhaid parchu'r setliad datganoli.   

Trafodwyd ffiniau a gweithredu'r Model Gweithredu Targed nesaf ac amlinellais bwysigrwydd Llywodraeth y DU yn yn trafod yn gynnar â llywodraethau datganoledig.

Yn olaf, buom yn siarad am gyfarfod COP15 sydd ar ddod ac yn trafod ein huchelgeisiau a'n hymateb ar y cyd ar fioamrywiaeth.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun 23 Ionawr 2023.

Bydd cyd-hysbysiad am y cyfarfod yma yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.