Neidio i'r prif gynnwy

Rhun ap Iorwerth AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi penodiadau i’r tîm Gweinidogol a’r Darpar Gwnsler Cyffredinol. 

Rwy’n cadarnhau Sioned Williams yn rôl y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Fel Dirprwy Brif Weinidog, bydd  Sioned yn fy nghefnogi yn fy rôl fel Prif Weinidog ac yn gweithio ochr yn ochr â mi i gyflawni dros bobl Cymru.

Rwyf hefyd heddiw wedi dynodi Elfyn Llwyd o dan adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i arfer swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol. Roedd Elfyn yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy a thros Dwyfor Meirionnydd yn ddiweddarach rhwng 1992 a 2015.

Dyma’r penodiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw:

  • Sioned Williams – Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
  • Elin Jones - Gweinidog Cabinet dros Gyllid
  • Heledd Fychan - Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
  • Dafydd Trystan Davies – Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
  • Mabon ap Gwynfor –Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
  • Adam Price - Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
  • Anna Brychan - Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
  • Llyr Gruffydd  Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
  • Siân Gwenllian  Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
  • Nerys Evans - Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
  • Delyth Jewell - Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
  • Mark Hooper -Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
  • Cefin Campbell - Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
  • Elfyn Llwyd  Darpar Gwnsler Cyffredinol

Rwy’n hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i arweinyddiaeth ein cenedl. Bydd y Cabinet yn dechrau ar unwaith ar y dasg o greu Cymru decach, gwyrddach a mwy llewyrchus i bawb sy’n byw yma, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.