Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cyllid a’r Gymraeg
Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad hwn i’ch hysbysu bod Rebecca Godfrey wedi cael ei phenodi'n Brif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn dilyn cystadleuaeth agored a theg a gynhaliwyd yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil.
Mae Rebecca Godfrey wedi bod yn gweithredu fel Prif Weithredwr Dros Dro ACC, yn dilyn ymadawiad Dyfed Alsop ym mis Mai. Cyn hynny, roedd Rebecca yn Brif Swyddog Gweithredu yn ACC. Daw â phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth weithredol a chyflawniad o fewn ACC.
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Dyfed Alsop am ei saith mlynedd o arweinyddiaeth fel Prif Weithredwr, gan sefydlu a thyfu awdurdod trethi Cymru.
