Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch penodi prif weithredwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi y bydd Tracy Myhill yn cymryd yr awenau oddi wrth Alex Howells a oedd y Prif Weithredwr Dros Dro.

Mae gan Tracy fwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y GIG ac mae wedi trawsnewid Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fod ymhlith y rhai sy'n perfformio orau yn y DU.

Cyhoeddais ar 17 Tachwedd fod Alex Howells wedi'i benodi yn brif weithredwr cyntaf Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Bydd Tracy ac Alex yn dechrau eu swyddi newydd yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y broses recriwtio i ddod o hyd i brif weithredwr newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dechrau'n fuan.