Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud bob blwyddyn ynghylch newid prisiau tocynnau trên yng Nghymru. Yn y gorffennol, mae’r prisiau wedi codi’r un faint â chwyddiant yr haf blaenorol.

Eleni rydym am wneud pethau’n wahanol. Yn hytrach na chodi prisiau tocynnau 12.3% yn 2023, bydd cap ar gynnydd eleni o 5.9% yr un faint â’r cynnydd yn Lloegr. Daw’r newidiadau i rym ar 5 Mawrth.

Rydyn ni’n deall bod hwn yn gynnydd sylweddol i deithwyr a hithau’n argyfwng costau byw ond rydym wedi ceisio cadw’r cynnydd mor fach â phosibl.  Ond gwaetha’r modd, oherwydd y setliad cyllidebol siomedig gan Lywodraeth y DU, nid ydym yn gallu fforddio cynnig cynnydd is nac yn gallu rhewi prisiau tocynnau trên yng Nghymru.

Mae’r setliad cyllidebol oddi wrth Lywodraeth y DU ynghyd ag incwm tocynnau is ers diwedd y pandemig yn golygu ein bod yn wynebu dewisiadau anodd os ydym am ddarparu gwasanaethau trên ar eu lefel bresennol yng Nghymru.

Mae prisiau tua 45% o docynnau trên wedi’u rheoleiddio, gan gynnwys tocynnau tymor i gymudwyr, rhai tocynnau dwy-ffordd ar adegau tawel a rhai tocynnau Unrhyw Bryd. Maen nhw wedi’u rhannu’n ‘fasgedi’ ond cyfanswm gwerth y basgedi hyn fydd yn gorfod cadw o dan y terfyn hwn o 5.9% o gynnydd. Felly er y gallai prisiau rhai tocynnau godi, gallai rhai aros yr un peth a gallai rhai ostwng, er mwyn ateb y galw a chadw at y cyfartaledd. Mae rhai tocynnau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio, fel Tocynnau Ymlaen Llaw. Nid yw’r cap yn effeithio ar y rheini.

Rydyn ni’n cydnabod bod y system codi am docynnau trên lawer cymhlethach nag y mae angen iddi fod. Dyna pam ein bod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddyfeisio trefn docynnu integredig syml ar draws pob dull teithio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylusach ac yn rhatach i deithwyr. Hefyd, er gwaetha’r sefyllfa ariannol anodd, mae Trafnidiaeth Cymru’n cadw ystod o docynnau’n rhatach i deithwyr, gan gynnwys tocynnau am ddim i blant sy’n teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn.

Er y cyfyngiadau ar ein cyllideb, rydyn ni’n bwrw yn ein blaenau â’r buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon i wasanaethu bob rhan o Gymru gan gynyddu’r capasiti ar wasanaethau a gwella cyfleusterau a chysur i deithwyr. Mae’r trenau hyn wrthi’n taro’r cledrau ac rydyn ni’n hyderus y byddan nhw’n denu mwy o bobl i ddefnyddio’r trenau gan greu mwy o incwm i gynnal ein trafnidiaeth gyhoeddus.