Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn cydnabod nad yw wedi bod yn hawdd i ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunanynysu oherwydd eu bod wedi’u nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, ac effaith hyn ar ddysgu yn y dosbarth.

Ar 9 Rhagfyr 2020 gwnaethom gyhoeddi bod y cyfnod y bydd rhaid i berson hunanynysu yn awr wedi lleihau o 14 diwrnod i 10 diwrnod. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pellach i leihau trosglwyddiad gan unigolion heb symptomau, ac i sicrhau y gall addysg barhau gan darfu cyn lleied â phosibl arni.

Un o’r technolegau newydd a ddatblygwyd drwy raglen profi torfol y DU yw’r profion llif unffordd. Mae profion llif unffordd yn adnabod presenoldeb antigen feirysol COVID-19 o sampl swab. Dyfeisiau llaw yw profion llif unffordd, sy’n rhoi canlyniad o fewn 20 i 30 munud, a gellir eu defnyddio gan yr unigolyn sy’n cael y prawf. Er nad yw profion llif unffordd mor sensitif â phrofion labordy RT-PCR, mae cyngor gwyddonol wedi awgrymu, drwy brofi yn amlach gyda phrofion llif unffordd, eu bod mor ddibynadwy â phrofion RT-PCR.

Yn dilyn trafodaethau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gell Cyngor Technegol Plant ac Ysgolion, ein bwriad yw cyflwyno rhaglen brofi mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach o fis Ionawr 2021.

Bydd y gwersi yr ydym wedi’u dysgu o ddefnyddio profion llif unffordd mewn cynlluniau peilot mewn sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru ac ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn ein helpu i wybod sut y gallwn gynnig profion llif unffordd yn llwyddiannus mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn y dyfodol.

O fis Ionawr 2021, bydd ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn cael cynnig cyfres o brofion (profion llif unffordd) ar unigolion sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif fel nad oes angen i unigolion yn y lleoliadau hynny hunanynysu. Golyga hyn y bydd angen i ddisgyblion a staff sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif hunanynysu fel arfer NEU gymryd prawf llif unffordd ar ddechrau’r diwrnod ysgol am y cyfnod hunanynysu cyfan. Caiff y rhai sy’n cael prawf negatif barhau â’u gweithgareddau arferol; rhaid i’r rhai sy’n cael prawf positif hunanynysu ac archebu prawf i gadarnhau’r canlyniad.

Bydd pob lleoliad yn cael cynnig cymorth, offer a hyfforddiant, ac rydym wrthi’n trafod y gofynion penodol o ran logisteg gyda’r sector.

Ein bwriad yw y dylai pob ysgol a lleoliad addysg bellach, gan gynnwys staff cynradd a gofal plant, gael mynediad at brofion cyfres. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau model sy’n gweithio ac sy’n ddiogel, byddwn yn cyflwyno’r profion fesul cam gan ddechrau gydag ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach.

Bydd pob aelod staff sy’n gweithio mewn ysgolion arbennig yn cael cynnig profion wythnosol.

Byddwn yn adolygu’r profion cyfres hyn i ddysgu unrhyw wersi ac fel sail i ddefnyddio’r profion yn y dyfodol.

Mae’n hanfodol bod pawb yn deall na all profion yn unig ddileu’r risgiau sy’n gysylltiedig â dal a throsglwyddo COVID-19. Mae profion yn helpu i liniaru’r risg ond mae’n rhaid eu cynnal ochr yn ochr â mesurau atal a rheoli eraill, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo priodol. Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sector sydd wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod y mesurau hyn ar waith.