Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae diogelu ein GIG a'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn parhau i fod wrth wraidd ein hymateb i Covid-19, ac un o flaenoriaethau ein strategaeth brofi yw galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i barhau i ddarparu gofal i bobl mewn ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol a gofal cymunedol.

Mae profion asymptomatig ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru hyd yn hyn  wedi helpu i reoli achosion ac wedi'u targedu at y rhai sy'n gweithio mewn meysydd clinigol gyda chleifion sy'n agored i niwed a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.  Wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, rydym yn cymryd camau pellach i helpu i reoli heintiau a lleihau trosglwyddo Covid-19 yn GIG Cymru a lleoliadau gofal cymdeithasol drwy ddefnyddio profion llif unffordd  (LFTs), un o'r technolegau newydd a ddatblygwyd drwy raglen profi torfol y DU, i brofi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn gyflym ac yn rheolaidd.

Mae profion llif unffordd yn canfod presenoldeb antigen feirysol Covid-19 o sampl swab.  Dyfeisiau llaw yw LFTs sy'n cynhyrchu canlyniadau o fewn 20 i 30 munud, gyda'r potensial i gael eu hunan-weinyddu. Maent yn cael eu treialu i'w defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion, i bobl sy'n ymweld â chartrefi gofal ac yn y rhaglen profi torfol bresennol ym Merthyr.

Ar ôl dilysu profion yn wyddonol gan ddefnyddio LFTs, rydym yn cyflwyno rhaglen o brofion asymptomatig rheolaidd, ddwywaith yr wythnos, ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu cleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol a gofal cymunedol, ac eraill sydd â chysylltiad â phobl yn y lleoliadau hynny. Bydd y rhaglen brofi hon yn cynnwys profi staff sy'n darparu gwasanaethau gofal cartref a gweithwyr proffesiynol sy'n ymweld â chartrefi gofal a lleoliadau gofal cymdeithasol eraill.

Mae'n hanfodol bod pawb yn deall na all profi ar ei ben ei hun ddileu'r risgiau sy'n gysylltiedig â dal a throsglwyddo Covid-19.  Mae profi yn gam lliniaru risg y mae angen ei gymryd ochr yn ochr â mesurau eraill i reoli ac atal haint, defnyddio cyfarpar diogelu personol yn effeithiol a mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo priodol.  Er nad yw LFTs mor sensitif â phrofion RT-PCR mewn labordai, drwy brofi'n amlach gydag LFTs, megis ddwywaith yr wythnos, mae cyngor gwyddonol wedi dangos bod eu cywirdeb yn cyfateb i brofion RT-PCR.

Bydd y rhaglen brofi ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n defnyddio LFTs ar gael ar gyfer:

  • Gweithwyr gofal iechyd clinigol, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd
  • Gweithwyr anghlinigol, gan gynnwys porthorion ysbytai, staff glanhau, staff arlwyo a gwirfoddolwyr.
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cymdeithasol ac arolygwyr sy'n ymweld â chartrefi gofal a lleoliadau gofal cymdeithasol eraill.

Byddwn yn dechrau cyflwyno'r rhaglen ar gyfer y grwpiau hyn yn raddol o 14 Rhagfyr, i ddechrau drwy brofi'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd â risgiau uchel o drosglwyddo Covid-19, a bwriadwn gyflwyno profion mewn lleoliadau risg is yn ystod yr wythnos yn dechrau 11 Ionawr 2021.  Rydym yn ymgysylltu â'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol o ran y gofynion logistaidd penodol ar gyfer pob un o'r gwahanol grwpiau hyn er mwyn sicrhau bod profion yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn gyflym.

Mae diogelwch ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ganolog i'n hymateb i Covid-19.  Cam arall yr ydym yn ei gymryd yw cyflwyno profion asymptomatig rheolaidd ar staff sy'n gweithio mewn unedau hosbis i gleifion mewnol a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau hosbis yn y cartref.  Mae'r trefniadau'n cael eu cwblhau gyda hosbisau ledled Cymru ac rydym yn disgwyl dechrau cyflwyno profion o 14 Rhagfyr.