Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma Ddatganiad Ysgrifenedig am statws diweddaraf Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.

Cyhoeddais ym mis Hydref bod angen adolygu’r modelau traffig yng ngoleuni’r wybodaeth newydd a oedd wedi dod i law, gan gynnwys y data newydd am lefelau’r traffig a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ym mis Gorffennaf.  Ers hynny, mae’r DfT wedi cyhoeddi y byddant yn adolygu eu data unwaith eto cyn hir.  I baratoi ar gyfer hyn, mae fy swyddogion wedi cydweithio â’r DfT i sicrhau bod y data sy’n bwydo fy adolygiad yn adlewyrchu’r adolygiad diweddaraf a bod fy adolygiad yn defnyddio’r wybodaeth orau a mwyaf cywir

Rwy’n ymwybodol iawn o’r dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i feddwl yn y tymor hir ac i atal problemau.  Law yn llaw â’m hadolygiad o’r asesiadau economaidd ac amgylcheddol cysylltiedig, rwyf wedi manteisio ar y cyfle hwn i edrych o’r newydd a allai ein cynigion diweddaraf ar gyfer y Metro, neu gynnig y ‘Llwybr Glas’ y bu cymaint sôn amdano, fynd i’r afael â’r problemau. 

Mae’r asesiadau diweddaraf yn dangos y bydd lefelau’r traffig yn y dyfodol, gan ystyried y cynigion diweddaraf ar gyfer y Metro, yn parhau i dyfu ond ychydig yn arafach nag a dybiwyd.  Er bod hyn i’w groesawu wrth gwrs, bydd y traffig ar yr M4 o gwmpas Casnewydd yn dal yn rhy drwm, gan greu problemau difrifol sy’n gwaethygu.  Ni fyddai lledu’r ffyrdd lleol trwy Gasnewydd, fel ag a gynigir yn y Llwybr Glas, yn lliniaru fawr ddim ar y sefyllfa ac ni fyddai’n diogelu ein rhwydwaith trafnidiaeth at y dyfodol tymor hir. 

Casgliad fy adolygiad yw mai Prosiect yr M4 yw’r ateb cynaliadwy tymor hir o hyd i hen broblem sy’n gwaethygu ar un o’r ffyrdd pwysicaf sy’n dod i mewn i Gymru.  Byddai’r Prosiect yn ailstrwythuro’r rhwydwaith priffyrdd o gwmpas Casnewydd yn sylweddol, ac o’i integreiddio â’r Metro, yn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol ac integredig ar gyfer Cymru. 

Er mwyn bod yn agored a thryloyw, caiff yr holl adroddiadau technegol, economaidd ac amgylcheddol rwyf wedi’u defnyddio at ddiben fy adolygiad eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, er mwyn i bawb allu eu hystyried.  

Gallaf gadarnhau nawr bod Arolygwyr Annibynnol am ystyried y Prosiect mewn ymchwiliad y penderfynir arno gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac a fydd yn dechrau ar 28 Chwefror 2017.  Cynhelir y cyfarfod cyn yr ymchwiliad ar 27 Ionawr. 

Rwy’n ymwybodol o’r amrywiaeth barn a goleddir am y Prosiect.  Bydd yr Ymchwiliad yn gyfle i glywed ac ystyried y safbwyntiau hyn.  Y tu allan i’r broses honno, rwy’n parhau i ymchwilio i bob cyfle i sicrhau bod y buddsoddiad posibl anferth hwn yn dod â’r manteision gorau posibl i Gymru. 

Ar ôl derbyn adroddiad yr Arolygwyr, rwy’n disgwyl y byddaf yn gallu gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylwn fwrw ymlaen ag adeiladu’r Prosiect, erbyn diwedd blwyddyn nesaf. Byddai’r gwaith yn dechrau yn 2018 a chaiff y darn newydd o draffordd ei agor yn 2021.
Diwedd.