Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn gyson yn y maes nad yw'n ddatganoledig o wella mynediad at gysylltedd digidol cyflym a dibynadwy. Defnyddiodd ein hymyriadau wedi'u targedu gyllid Ewropeaidd i sicrhau cyllid Llywodraeth y DU, a thrwy hynny, trawsnewidiwyd argaeledd band eang ledled Cymru. Daeth Cyflymu Cymru â band eang cyflym iawn i 733,000 o adeiladau a daeth cynlluniau olynol â band eang ffeibr llawn i 44,000 o adeiladau eraill. Mae data diweddaraf Ofcom bellach yn dangos y gall dros 97 y cant o adeiladau yng Nghymru gael mynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf, a gall 78 y cant o adeiladau preswyl gael mynediad at wasanaeth all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit.

Mae'r dirwedd band eang wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yna lawer o gwmnïau newydd yn cyflwyno seilwaith a gwasanaethau, gan ategu cwmnïau sefydledig sy'n parhau i ymestyn eu rhwydweithiau gigabit ffeibr llawn. Lle nad yw'r farchnad weithredol a chystadleuol hon yn gallu cyrraedd, mae Llywodraeth y DU, trwy ei rhaglen Project Gigabit, ac eraill yn ymestyn cwmpas gigabit ymhellach fyth.

Er gwaethaf ymdrechion y diwydiant telathrebu ac ymyriadau'r sector cyhoeddus, mae yna adeiladau o hyd heb fynediad at gyflymder band eang cyflym iawn o leiaf ac nad ydynt mewn unrhyw gynlluniau i'w cyflwyno dros y tair blynedd nesaf.  Rydym wedi datblygu'r achos busnes ar gyfer prosiect, y prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym, i fynd i'r afael â'r bwlch hwn a darparu band eang cyflym a dibynadwy i'r adeiladau sy'n weddill. 

Mae'r prosiect yn cael ei gynllunio a'i gydlynu'n ofalus i sicrhau ein bod yn ategu ymyriadau masnachol a chyhoeddus eraill, gan ganiatáu i'r farchnad band eang gyrraedd cyn belled ag y gall a gwella buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Nododd ein hadolygiad marchnad agored 2022 hyd at 84,000 o adeiladau cychwynnol y gellid mynd i'r afael â hwy gan y prosiect. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod nifer yr adeiladau wedi lleihau ers hynny wrth i fwy o wybodaeth am gwmpas prosiectau masnachol a phrosiectau sector cyhoeddus eraill, gan gynnwys Prosiect Gigabit, ddod yn gliriach. Bydd y rhestr o adeiladau sy'n cael eu targedu yn parhau i gael ei diwygio i adlewyrchu'r ffaith bod yr adeiladau hynny y mae ymyriadau eraill yn mynd i'r afael â hwy yn cael eu tynnu allan o'r prosiect. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y bydd nifer yr adeiladau yn y cwmpas oddeutu 25,000-30,000.

Bydd y prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym yn cael ei ariannu o £70 miliwn a gafwyd yn ôl o brosiect gwreiddiol Cyflymu Cymru. 

Mae natur ddeinamig y farchnad telathrebu yn golygu ein bod yn cymryd agwedd hyblyg at y fenter hon. Bydd hyn yn golygu sefydlu fframwaith o gyflenwyr telathrebu sy'n gallu mynd i'r afael â'r adeiladau sy'n weddill. Ar ôl i'r fframwaith gael ei greu, byddwn wedyn yn cynnig cyfres o gontractau yn ôl y gofyn cystadleuol i'w rhoi i gyflenwyr cyllid o'r fframwaith i fynd i'r afael â grwpiau o adeiladau. Bydd y galwadau yn cael eu cynnig mewn dau fath o Lot, o dan 1,000 o adeiladau a dros 1,000 o adeiladau, i ennyn diddordeb gan ystod eang o ddarpar gyflenwyr. Bydd cymryd y dull hwn hefyd yn caniatáu i'r prosiect addasu i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau i'r rhestr gychwynnol o adeiladau targed ac i fynd i'r afael â chymunedau bach sydd wedi'u gadael heb eu gwasanaethu. Rydym yn rhagweld y bydd yr alwad gyntaf yn cael ei chynnig yn ystod Hydref eleni gyda'r gwaith ar lawr gwlad yn dechrau cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y galwadau hyn yn arwain at brosiectau cyflawni a fydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w cwblhau oherwydd natur cynllunio, paratoi a chyflenwi seilwaith.

Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law.