Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymestynnwyd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i gynnwys y gwyliau yn ystod y pandemig, ac roeddem yn glir o’r cychwyn ei fod yn ymyriad dros dro, mewn cyfnod o argyfwng. Cynigiwyd y gefnogaeth o ddechrau’r pandemig tan fis Mai 2023. 

Roedd y penderfyniad i beidio ag ymestyn y cyllid i wyliau haf 2023 yn benderfyniad na chymerwyd yn ysgafn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel y dangosodd yr asesiad effaith cynhwysfawr dilynol, ac o ystyried bod ein cyllideb werth £1.2bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gan Lywodraeth y DU yn 2021, byddai wedi bod yn anfforddiadwy heb orfod gwneud toriadau sylweddol mewn cyllidebau addysg allweddol eraill. 

Derbyniodd Llywodraeth Cymru hawliad am adolygiad barnwrol mewn perthynas â darparu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r ysgol ym mis Medi 2023. Mae’r hawliad bellach wedi’i setlo trwy gytundeb rhwng y partïon ar ffurf gorchymyn cydsynio. Gan fod yr hawliad yn ymwneud â mater gweithdrefnol, nid yw’r canlyniad wedi newid: daeth y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i ben yn 2023 gan nad yw’r cyllid ar gael, yn anffodus, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol. 

Wrth gytuno ar setliad, derbyniodd Gweinidogion Cymru, fod angen cwblhau rhagor o waith asesu cydraddoldeb ym Mehefin 2023. 

Unionwyd y materion gweithdrefnol hyn drwy wneud penderfyniad pellach ym mis Hydref 2023 ar ôl ystyried asesiad effaith cynhwysfawr. Unwaith eto, yn sgil y pwysau ariannol parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, penderfynwyd peidio ag ailgyflwyno’r ddarpariaeth ar gyfer hanner tymor mis Hydref 2023 a’r gwyliau dilynol, ac i ddod â’r ddarpariaeth i ben am gyfnod amhenodol.