Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi buddsoddiad o £2.3 miliwn yn ein cymunedau arfordirol i gefnogi'r diwydiant bwyd môr, seilwaith harbyrau a'r amgylchedd morol. 

Ers 1 Ionawr 2021, ar ôl i’r DU ymadael â'r UE ac ar ôl i’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE ddod i ben, mae busnesau bwyd môr yng Nghymru wedi dioddef effeithiau difrifol, neu wedi gorfod rhoi’r gorau yn gyfan gwbl i fasnachu molysgiaid dwygragennog o ddyfroedd dosbarth B. Mae'r holl darfu hwn wedi gwaethygu sefyllfa a oedd eisoes yn un ddifrifol i sector bwyd môr Cymru ar ôl i farchnadoedd lletygarwch gau oherwydd y  cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil Covid-19. 

Dim ond cymorth rhannol y mae’n pysgodfeydd a’n busnesau dyframaethu yng Nghymru yn ei gael o Gronfa Ymateb Llywodraeth y DU ar gyfer Busnesau Bwyd Môr. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro, ond yn ofer, i Lywodraeth y DU roi cymorth digonol i’r sector yng Nghymru.

Rwyf, felly, wedi dyrannu hyd at £1.3 miliwn i Gynllun Cadernid Sector Bwyd Môr Cymru. Bydd dwy elfen i'r cynllun. Yn gyntaf, bydd grant untro ar gael a fydd yn cael ei dargedu at fusnesau pysgota cymwys yng Nghymru sy'n berchen ar gychod. Bydd yn cyfateb i 3 mis o gostau sefydlog y cychod a bydd uchafswm o £10,000 ar gael. Bydd y taliadau'n cael eu pennu yn ôl maint y cychod, a bydd nifer y categorïau a'r grant cyfatebol yn adlewyrchu cynllun y DU. Mae hynny’n fodd i sicrhau y bydd busnesau’n cael yr un faint o arian ag o dan gynllun y DU ond, yr hyn sy’n hollbwysig yw y bydd y cyfnod cyfeirio er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth o dan gynllun Cymru yn hirach, gan gyrraedd llawer mwy o’r busnesau pysgota hynny yng Nghymru y mae angen cymorth arnynt. Bydd y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i gael y grant yn cyfateb yn agos i’r meini prawf ar gyfer Grant Pysgodfeydd Cymru 2020.

Yn achos dyframaethu, gwyddom fod busnesau yng Nghymru wedi cael eu bwrw’n galed gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a negodwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n methu â darparu ar gyfer parhau i fasnachu molysgiaid dwygragennog byw o ddyfroedd dosbarth B. Roedd Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i'r rhan hon o'r sector dro ar ôl tro y byddai masnach yn parhau’n ddilyffethair, ac na fyddai angen i'r busnesau hyn addasu eu model busnes. Mae’n gwbl amlwg nad yw hynny wedi digwydd. 

Am dri mis cyntaf 2021, bydd cynllun Cymru yn darparu grant o 50% o refeniw gros misol cyfartalog y busnesau hynny (ar sail y flwyddyn orau rhwng 2017 a 2019), gan gynnig hyd at uchafswm o £40,500.

Bydd y cymorth a ddarperir yn helpu'r rheini sy'n gymwys i dalu eu costau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn sicrhau y bydd gan Gymru sector bwyd môr cystadleuol unwaith y bydd yr argyfwng hwn wedi dod i ben. Bydd modd cyflwyno ceisiadau o dan y cynllun rhwng 17 a 31 Mawrth. Caiff ymgeiswyr cymwys gyflwyno cais naill ai o dan gynllun y DU neu o dan gynllun Cymru, ond nid i'r ddau.

Er mwyn helpu i oresgyn yr heriau sydd wedi codi yn sgil Ymadael â'r UE a

Covid-19, mae hefyd yn bwysig fod gan borthladdoedd a harbyrau Cymru y seilwaith angenrheidiol i’w galluogi i weithredu mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy, a bod ganddynt hefyd gyfleusterau addas i'r diben am flynyddoedd i ddod. Mae seilwaith sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda yn allweddol er mwyn caniatáu i amrywiaeth eang o fusnesau lwyddo. 

Bydd y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach, sy’n werth £1 filiwn, ar gael i holl Awdurdodau Porthladdoedd ac awdurdodau lleol Cymru, a byddant yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Bydd y cynllun hwn yn cynnig manteision amgylcheddol a gweithredol, ynghyd â manteision o ran diogelwch, i bawb sy’n defnyddio porthladdoedd a harbyrau Cymru drwy wella perfformiad cyffredinol, cynaliadwyedd, diogelwch, a lles diwydiannau a'r cyhoedd.

Yn ogystal â'r pecynnau cymorth a amlinellir uchod, bydd gweddill Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn cael ei dargedu ar yr adferiad ar ôl Covid-19, gan gynnig cyfleoedd i bysgotwyr ychwanegu gwerth i'w dalfa yn ogystal â phrosesu a marchnata cynhyrchion. Bydd yr arian hwn yn cael ei weinyddu drwy gynllun grant lle bydd angen gwneud cais drwy 'Fynegi Diddordeb'. Disgwylir i'r ffordd newydd hon o ymdrin â chronfeydd y rhaglen ddechrau ym mis Mehefin 2021, a bydd Taliadau Gwledig Cymru yn mynd ati maes o law i gyhoeddi’r manylion a’r meini prawf penodol ar gyfer dewis ceisiadau.