Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers y drychineb yn Nhŵr Grenfell y llynedd, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag awdurdodau lleol, perchnogion adeiladau, rheolwyr, y sector preifat a'r trydydd sector ac eraill i greu darlun cyflawn a manwl o'r sefyllfa ynghylch yr adeiladau preswyl uchel sydd yng Nghymru, a hefyd i sicrhau bod perchnogion ac asiantiaid yn ymwybodol o ganllawiau'r Llywodraeth ar ddiogelwch a'u bod yn cymryd y camau angenrheidiol.  

Fe wnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd ymateb yn sydyn i ddiogelu preswylwyr drwy roi nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle gan gynnwys system chwistrellu. Ein tro ni yw hi nawr i'w cefnogi nhw.  Dyna pam yr wyf wedi cytuno heddiw y bydd cyllid cyfalaf gwerth £3 miliwn ar gael i alluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i osod cladin newydd ar dri bloc uchel yn y ddinas.  

Y tri adeilad preswyl uchel yw'r unig rai yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi'u cadarnhau'n adeiladau sydd â systemau Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) sy'n cyfateb i'r hyn sydd wedi methu profion hylosgedd ar raddfa fawr.

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i barhau â'u hymrwymiad i ddiogelwch preswylwyr heb gyfaddawdu ar eu cynlluniau hollbwysig i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y ddinas.