Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu £40m yn ychwanegol i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn 2014-15 i’w helpu i ddelio â phwysau’r gaeaf.

Mae’r buddsoddiad ychwanegol yn golygu y bydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cael buddsoddiad ychwanegol o bron chwarter biliwn o bunnoedd yn 2014-15 i ddarparu gwasanaethau iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel.

Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – fel gwasanaethau iechyd ledled y DU – wedi bod yn destun pwysau cyson dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd o ganlyniad i gynnydd yn y galw o du mewnlifiad o gleifion sâl.

Mae’r buddsoddiad o £40m, sy’n dod o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru, yn cyfateb i’r swm ychwanegol o £700m y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddyrannu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr i’w helpu i ddelio â phwysau’r gaeaf.

Gyda’r swm ychwanegol o £295m sy’n cael ei fuddsoddi yn 2015-16, sy’n cynnwys y cyllid refeniw o £70m yn sgil Datganiad yr Hydref, mae’n golygu cynnydd mewn buddsoddiad yn ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o bron hanner biliwn o bunnoedd dros ddwy flynedd. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad clir i Wasanaeth Iechyd cynaliadwy yng Nghymru sy’n seiliedig ar y diwygiadau sydd wedi’u hamlinellu yn adroddiad Nuffield.