Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi yn hanfodol i fynd i’r afael â nifer o’r heriau mawr rydym yn eu hwynebu heddiw – o bandemig presennol y coronafeirws i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r rhain yn faterion byd-eang, sydd angen dull gweithredu cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi dibynnu ar ymchwil ac arloesi ac wedi cael budd ohonynt - o’r ymdrech fyd-eang i ddatblygu, profi a chymeradwyo brechlynnau a thriniaethau newydd ac effeithiol i ddatblygiadau mewn technoleg brofi, sydd wedi ein galluogi i gynnal profion Covid-19 yn gyflym gartref.

Bydd yr argyfwng newid hinsawdd a’n huchelgais i ddatgarboneiddio a chyrraedd sero-net erbyn 2050 yn gofyn i ni feddwl, ymchwilio ac arloesi mewn ffordd newydd. Deall y wyddoniaeth yw’r cam hanfodol cyntaf yn y broses hon.

Mae’r adroddiad Elsevier diweddar am sut mae ymchwil Cymru yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn dangos ein bod yn arwain y byd yn y maes hwn ac mae’n tynnu sylw at ddyfnder ac ehangder yr ymchwil a’r dalent sydd gennym yma yng Nghymru.

Yng ngoleuni hyn rydym heddiw’n cyhoeddi ein pum blaenoriaeth ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi. Byddwn yn:

  • Sicrhau bod Cymru yn cael cyfran deg o gyllid ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi a byddwn yn gweithio i sicrhau bod y lefelau cyllid o leiaf yn cyfateb i’r rheini a gafwyd yn hanesyddol, drwy’r Undeb Ewropeaidd. Byddwn hefyd yn gweithio i fynd i’r afael â’r tanariannu hanesyddol gan ffynonellau buddsoddi cystadleuol ac anghystadleuol y DU.
  • Defnyddio ein gallu yn y maes ymchwil, datblygu ac arloesi i helpu ein Rhaglen Lywodraethu i ganolbwyntio ar newid hinsawdd, adferiad amgylcheddol a datgarboneiddio, gan gynnwys cefnogi cynlluniau datgarboneiddio llywodraeth leol.
  • Meithrin ein gallu ymchwil, datblygu ac arloesi yn y gwyddorau bywyd ac iechyd gan sicrhau bod Cymru’n bartner llawn o ran cyflawni Gweledigaeth Gwyddorau Bywyd y DU.
  • Datblygu strategaeth arloesi drawslywodraethol newydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar annog effaith.
  • Parhau i gynyddu gallu Cymru i gynnal ymchwil ragorol drwy lansio cam nesaf Sêr Cymru.