Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r GIG yng Nghymru, fel gwasanaethau iechyd ar draws y DU, wedi bod o dan bwysau sylweddol yn yr wythnosau diwethaf.

Mae'r gaeaf yn gyfnod prysur iawn i'n gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a'n gwasanaethau cymdeithasol - mae gwasanaethau gofal brys yng Nghymru, yn arbennig, wedi bod o dan bwysau sylweddol dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Nid yng Nghymru yn unig y mae hyn y broblem - mae'r GIG ledled y DU o dan bwysau o ganlyniad i alw cynyddol gan lif o gleifion sâl.

Hoffwn ddiolch i holl staff y maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd, i sicrhau bod y rheini sydd angen gofal brys wedi derbyn triniaeth a gwasanaethau o'r ansawdd uchaf ac wedi cael eu trin gyda gofal a thosturi.  

Bu'r byrddau iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r awdurdodau lleol yn cydweithio'n agos drwy gydol 2014 i ddatblygu cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, a oedd yn canolbwyntio ar lefelau staffio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Roedd y cynlluniau hefyd yn canolbwyntio ar gynnal llif cleifion drwy'r system gofal iechyd, gan gynnwys cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn gynnar, asesiadau cyflym o anghenion gofal a chymorth, ailalluogi a darpariaeth 'cam i lawr', yn ogystal ag ailgychwyn rhaglenni gofal yn awtomatig i sicrhau bod pobl yn gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty cyn gynted â'u bod yn teimlo'n ddigon da.

Ond, er gwaetha'r cynlluniau cadarn hyn, mae'r pwysau wedi bod yn sylweddol:

  • Mae’r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau wedi cael y Nadolig prysuraf ers eu sefydlu. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, cafodd y gwasanaeth y tu allan i oriau tua 1,800 o alwadau ar un penwythnos rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
  • Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion difrifol wael sy'n defnyddio'r gwasanaethau, gyda lefelau annisgwyl o alw dros yr wythnosau diwethaf. Cafwyd 725 o alwadau Categori A ddydd Calan - cynnydd o tua 225 o achosion o gymharu â'r hyn a gaiff ei ystyried yn ddiwrnod arferol, a chynnydd o 17.5% o gymharu â dydd Calan 2014; 
  • Mae adrannau brys ysbytai ledled Cymru wedi cofnodi cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda chyflyrau acìwt, anghenion cymhleth a'r rheini sy'n ddibynnol.

Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau cronig sydd angen cael eu trin mewn ysbyty. Mae hyn yn hynod o heriol i Gymru, sydd â'r gyfran uchaf o bobl dros 85 oed yn y DU.  

Mae GIG Cymru yn trin mwy o gleifion sy'n ddifrifol wael, ac sydd â lefelau uwch o ddibyniaeth, sy'n golygu bod angen iddynt dreulio mwy o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cael effaith ar lif cleifion drwy'r system gofal iechyd, gan nad oes modd rhyddhau pobl o'r ysbyty mor gyflym ag ar adegau eraill o'r flwyddyn, ac o ganlyniad, mae llai o welyau ar gael i gleifion.

Mae’r byrddau iechyd yn sicrhau bod pob gwely sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gofal a thriniaeth i'r cleifion mwyaf sâl. Yn anffodus, ond yn anochel, mae hyn wedi arwain at oedi wrth gynnal rhai llawdriniaethau oedd wedi'u trefnu, er mwyn sicrhau bod gwelyau ar gael i'r rheini sydd angen sylw meddygol ar frys.

Mae rhai byrddau iechyd wedi defnyddio eu gwelyau wrth gefn ar lefelau y tu hwnt i’w cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, a hynny mewn ymateb i'r pwysau hyn, fodd bynnag mae'r gwasanaeth hefyd yn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd ar unwaith.

Mae'r GIG hefyd yn ymdrin â llif o bobl ag amrywiaeth o salwch sy'n gysylltiedig â'r gaeaf, gan gynnwys y norofeirws, salwch feirysol, a chyflyrau sy'n ymwneud ag anadlu, y galon a str c. Rydym hefyd yn gwybod bod y ffliw yn lledaenu mewn cymunedau yng Nghymru - mae nifer o achosion o'r ffliw eisoes wedi cael eu cofnodi mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mae’n ymddangos bod un straen o'r ffliw sy'n lledaenu yn effeithio'n arbennig ar bobl hŷn sy'n agored i niwed.

Mae Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i reoli’r achosion hyn, ac mae hyn yn cynnwys gynnig cyffuriau gwrthfeirysol i bobl sy'n sâl neu sydd mewn perygl o ledaenu'r haint. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru hefyd wedi cynghori meddygon teulu i gynnig cyffuriau gwrthfeirysol i bobl sy’n agored i niwed, y maent yn amau sy'n dioddef o'r ffliw, a phryd bynnag y bo’n bosibl, caiff cleifion eu trin yn y cartref er mwyn helpu i leihau pwysau ar wasanaethau’r ysbyty.

Mae'r brechiad ffliw am ddim ar gael o hyd i bobl dros 65 oed; i bobl dan 65 oed sy’n perthyn i grŵp agored i niwed; i fenywod beichiog ac i blant sy'n ddwy, tair a phedair blwydd oed. Dylai unrhyw un sydd heb gael brechiad eto gysylltu â'i feddyg teulu neu'r fferyllfa i gael y brechiad cyn gynted â phosibl, a bydd yn ei amddiffyn am weddill y tymor. Gall gweithwyr iechyd y rheng flaen hefyd gael brechiad ffliw am ddim, a fydd yn sicrhau eu bod nhw eu hunain, a'u cleifion bregus ,yn cael eu hamddiffyn yn erbyn y ffliw a'i gymhlethdodau, a hefyd yn helpu i gynnal gwasanaethau gofal iechyd hanfodol yn ystod y cyfnod prysur hwn.

Mae clinigwyr y gwasanaeth ambiwlans brys yn parhau i drin salwch neu anafiadau cleifion yn y fan a’r lle; yn sefydlogi cleifion sy'n ddifrifol wael ac yn mynd â phobl i'r ysbyty ac o'r ysbyty lle y bo'n briodol. Rwyf wedi egluro bod yn rhaid i'r byrddau iechyd weithio gyda'u partneriaid i leihau’r oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn adrannau brys, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn gallu ymateb yn gyflym i bobl eraill sydd angen triniaeth frys, neu driniaeth i achub eu bywydau.

Mae hyn yn brawf o ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein gwasanaethau gofal brys yn cael eu darparu mewn modd diogel, fel bod cleifion yn gallu aros yn y cartref neu'n gallu mynd adref mor gyflym â phosibl, yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl staff am eu hymdrechion.

Gall y cyhoedd helpu'r GIG drwy wneud dewis doeth ac ystyried a oes angen iddynt fynd i'r adran frys pan maent yn cael anaf neu salwch, a all gwasanaeth iechyd lleol arall helpu, neu a ydynt yn gallu gofalu am eu hunain gyda chyngor gan Galw Iechyd Cymru. Gall ein hymgyrch Dewis Doeth helpu pobl i benderfynu at bwy i droi i gael yr help sydd ei angen arnynt; beth mae gwahanol wasanaethau'r GIG yn eu gwneud a phryd y dylid eu defnyddio.

Drwy wneud Dewis Doeth mae pobl yn cael y driniaeth orau ar gyfer eu cyflwr penodol ac mae'n caniatáu gwasanaethau prysur y GIG i helpu’r bobl sydd fwyaf eu hangen ar yr adegau hynny.

Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.