Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd Pythefnos Masnach Deg 2023 rhwng 27 Chwefror a 12 Mawrth. Y thema eleni yw sut mae gwneud y newid bach i Fasnach Deg yn cefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol rhai o'n hoff fwydydd a'r blaned.

Mae newid hinsawdd yn gwneud cnydau fel coffi, bananas a siocled yn anoddach i'w tyfu ac yn sgil hynny maent yn llawer drutach i'w prynu. Mae hyn, ynghyd ag arferion masnach hynod annheg, yn golygu bod cymunedau sy'n tyfu'r cnydau hyn yn cael eu gwthio i'r dibyn. Ond os bydd mwy o bobl yn dewis Masnach Deg mae hynny'n golygu incwm, pŵer a chymorth ychwanegol i'r cymunedau hynny sy'n helpu i gefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol y cnydau hyn a'r blaned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fasnach deg ac mae Cymru wedi bod yn genedl masnach deg ers 2008. Rydym wedi gweld y manteision y mae'n eu cynnig i ffermwyr sy'n cael eu cefnogi drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn Uganda. Mae hyn wedi caniatáu i fentrau dan arweiniad y gymuned, yng Nghymru ac yn Uganda, gael effeithiau gwirioneddol ar eu cymunedau.

Cafodd Jenipher Sambezi a Nimrod Wambette o Fenter Gydweithredol Cymunedau Amaeth-goedwigaeth Mynydd Elgon (MEACCE) eu hariannu gan ein rhaglen Cymru ac Affrica i ymweld â Chymru o'u cartrefi yn nwyrain Uganda ar gyfer Pythefnos Masnach Deg, ac maent yn parhau i fod yn aelodau blaenllaw ar gyfer y mudiad. Drwy eu menter gydweithredol maent yn cynhyrchu coffi Masnach Deg o safon, sef ‘Jenipher's Coffi’ sy'n cael ei werthu yng Nghymru drwy bartneriaeth gyda Ferrari’s o Bont-y-clun.

Mynychais nifer o ddigwyddiadau i nodi Pythefnos Masnach Deg. Yn gyntaf, ymwelais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae'r corff dan arweiniad myfyrwyr yn parhau i fod yn enghraifft o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru. Yn ddiweddar, dyfarnwyd y safle cyntaf i'r Brifysgol yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a'r Blaned ar gyfer blwyddyn 2022/23. Roedd hyn allan o 153 o brifysgolion y DU.

Ymwelais hefyd â siop masnach deg Sussed ym Mhorthcawl. Mae'r siop hon, a sefydlwyd gan yr elusen Cymru Gynaliadwy, ac sy’n cefnogi’r elusen honno, yn fenter gydweithredol sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael ei staffio'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae’n fan lle mae gan bawb lais cyfartal, gan hyrwyddo democratiaeth yn y gweithle.

Croesewais Jenipher Sambezi a Nimrod Wambette yn Nhŷ Hywel, a buont yn trafod masnach deg a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar eu cymuned, gyda nifer fawr o Aelodau o'r Senedd.  Mae Jenipher a Nimrod yn parhau i greu argraff fawr ar y rheini sy'n dod ar eu traws, drwy’r gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r effaith maen nhw'n ei gael ar eu cymuned.  

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod siaradais mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a oedd yn dathlu'r pedwar prosiect grymuso menywod yn Uganda a Lesotho a ariannwyd drwy ein partneriaid yn Hub Cymru Affrica. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd masnach deg yn y digwyddiad hwn hefyd a sut y gall newid i gynhyrchion Masnach Deg gael effaith enfawr ar gynhyrchwyr bach yn y gwledydd hyn. 

Wrth inni agosáu at ben-blwydd Cymru yn 15 oed fel cenedl masnach deg, rydym yn gweithio tuag at ddatblygu meini prawf mwy uchelgeisiol i gadw Cymru ar flaen y gad yn y mudiad hwn. Bydd cyhoeddiad am y meini prawf newydd yn cael ei wneud yr haf hwn i nodi'r achlysur.