Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gadarnhau y bwriedir i’r Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd ddechrau gweithredu o fis Ebrill 2023. Wrth ei sefydlu dros y 15 mis nesaf, caiff ei siapio gan brofiad y Cynghorau Iechyd Cymuned ynghyd â’r rhai hynny sy’n cyflenwi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n gweithio gyda hwy ac sy’n dibynnu arnynt.

Rydym wedi dechrau ar y broses o recriwtio i rolau’r aelodau anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd a chwe aelod arall. Gobeithiaf y bydd y penodiadau allweddol hyn yn weithredol o fis Ebrill 2022. Agorodd y ceisiadau ar 4 Ionawr a byddant yn cau ar 1 Chwefror. 

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penodi Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a Chwe Aelod Anweithredol - (tal.net)

Wedi iddynt gael eu penodi, byddant yn dechrau ar y broses o recriwtio Prif Weithredwr ar gyfer y corff newydd, annibynnol hwn ac yn mabwysiadu rôl arweiniol i ddatblygu’r trefniadau gweithredol, llywodraethiant, ariannol ac eraill y bydd eu hangen ar y sefydliad i arfer ei swyddogaethau’n llawn o 1 Ebrill 2023. 

Fel sefydliad a ysgogir gan yr hyn sy’n bwysig i bobl, bydd Corff Llais y Dinesydd yn ceisio barn ac yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd, ym mhob rhan o Gymru, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gwneud sylwadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol ynghylch eu gwasanaethau. Mae aelodaeth anweithredol o’r bwrdd yn cynnig cyfle unigryw – yn arbennig yng nghyd-destun dysgu gwersi o’r pandemig sy’n parhau – i ddeall amrywiol fuddiannau'r rhai hynny sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gweithredu arnynt.

Rwy’n annog pobl sydd â phrofiad o feithrin cysylltiadau â’r cyhoedd ac sy’n wirioneddol ymroddedig i wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau i ymgeisio am y rolau hyn. Dyma’r hyn y bydd ein dinasyddion yn ei ddisgwyl, ac mae hynny’n gwbl briodol.  

Wedi i’r aelodau gael eu penodi – bydd penodiad y Cadeirydd yn cynnwys gwrandawiad cyn-penodi gyda Phwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd – byddaf yn sicrhau bod y Senedd yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â sefydlu’r corff pwysig newydd hwn.