Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau ar gyfer PISA 2015.

O 2 Chwefror ymlaen, mae ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cael eu recriwtio i gymryd rhan yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2015.   Caiff y broses recriwtio ei chynnal dros sawl wythnos tan ddiwedd Mawrth. Os caiff ysgol ei dewis ar gyfer y rhaglen, byddwn yn ei hannog i gymryd rhan. Caiff ysgolion eu dewis yn gyfrinachol yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd gan OECD ar gyfer RM Consulting, sef rheolwr cenedlaethol y rhaglen ar gyfer PISA ar ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae PISA yn asesiad o berfformiad ein system addysg yng Nghymru yn erbyn meincnod rhyngwladol, ac mae'n ddangosydd pwysig o'n cynnydd.