Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn falch o roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch rheoli  pwysau brys gan GIG Cymru dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd.

Mae hwn bod amser yn gyfnod arbennig o brysur ac rydym yn gweld effaith nifer cynyddol o achosion o norofeirws ac, yn fwyaf diweddar, gleifion sydd â ffliw, clefydau feirysol a chyflyrau’r anadl a’r galon. Yn gyffredinol mae’r GIG yn ymateb i fwy o gleifion sydd â salwch aciwt, ynghyd â lefelau uwch o ddibyniaeth.

Mae’r GIG wedi rhag-weld y pwysau hyn ac mae wedi datblygu cynlluniau manwl i ymateb iddynt.  Seilir y cynlluniau hyn ar ddiogelwch clinigol a blaenoriaeth, gan ymdrin â’r cleifion mwyaf sâl gyntaf. Mae’r GIG yn rheoli sefyllfa anodd yn dda a hoffwn roi teyrnged arbennig i’r llu o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy’n gweithio gydag ymrwymiad ac ymroddiad mawr a hynny ar adeg mor heriol.  

Mae cyrff y GIG yn cyfathrebu â’i gilydd bob dydd. Gwneir penderfyniadau am flaenoriaethau yng ngoleuni’r newid yn y galw.  Mae Llywodraeth Cymru’n gweithredu fel pwynt cydgysylltu i sicrhau bod cynlluniau a chamau gweithredu’n cael eu halinio a’u cydgysylltu yn ôl yr angen.  

Mae’r Byrddau Iechyd wedi agor capasiti arbennig i ymdopi â’r sefyllfa pan fydd y galw ar ei anterth.  Maent yn cydweithio ag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau yn brydlon.  Mae’r Byrddau Iechyd yn parhau i gydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Ambiwlans er mwyn galluogi cleifion i gael eu cludo’n effeithiol i’r ysbyty ac oddi yno. Mae Byrddau Iechyd hefyd yn sicrhau bod yr holl gapasiti’n cael ei ddefnyddio i ddarparu gofal i’r cleifion mwyaf sâl.  Ar adegau, mae llawdriniaethau arferol sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw’n cael eu gohirio er mwyn sicrhau bod gwelyau ar gael i’r rhai y mae arnynt angen sylw brys mewn argyfwng.  Mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn lleol gan adlewyrchu’r galw clinigol penodol a materion capasiti.

Heb os nac oni bai, bydd y pwysau’n parhau.  Yn ôl yr arwyddion bydd cynnydd yn yr achosion o ffliw ac unwaith eto hoffwn annog pob unigolyn cymwys sydd heb gael ei frechu rhag y ffliw i fynd ati i wneud hynny yn ddi-oed. Er hynny, rwyf yn falch o roi sicrwydd i’r aelodau fod y GIG yn llwyddo i ymateb i ystod o heriau mewn ffordd sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ac i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.